Skip to Main Content

Mae’r dudalen hon yn grynodeb o gynlluniau i wneud ardal Glan Hafren yn well. Gallwch hefyd weld y Cynllun ‘Seven for Severnside’.

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl leol am yr hyn y maent yn ei feddwl o’n cynllun i wella’r rhanbarth – mae arolwg a manylion cyswllt ar ddiwedd y dudalen hon.

Cyflwyniad

Rydym am helpu pobl Sir Fynwy i gymryd mwy o ran wrth greu’r math o sir yr hoffent ei weld. Un ffordd yr ydym yn ceisio gwneud hyn yw trwy gael Cynllun ar gyfer Glan Hafren.

Fel rhanbarth, mae Glan Hafren yn cynnwys:

  • Caer-went
  • Cil-y-coed
  • Rogiet
  • Magwyr
  • Porthysgewin
  • A’r ardaloedd rhwng y trefi a phentrefi hyn

Rydym yn credu y bydd edrych ar yr ardal hon yn ei chyfanrwydd yn ein helpu i gael hyd i gynllun mwy defnyddiol ac ystyrlon i wella’r ardal ar gyfer ymwelwyr a’r rhai sy’n byw a gweithio ynddi.

Mae eisoes llawer o waith yn cael ei wneud a fydd yn gwella a gwneud lles i ardal Glan Hafren, a bydd y camau a gynhwysir yn y cynllun hwn yn dangos i ni sut y gallwn fanteisio ac adeiladu ar raglenni a phrosiectau presennol sy’n cael eu cynnig neu ar y gweill yng Nglan Hafren.

Bwriad y cynllun hwn yw canolbwyntio ar y cynlluniau sydd â’r potensial mwyaf i sicrhau newid cadarnhaol fel y gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion yn y mannau gorau.

Rydym yn galw’r cynllun ‘Severn for Severnside’ oherwydd bod saith o bethau yr ydym am eu cael ar gyfer Glan Hafren:

Campws Cymunedol Glan Hafren

  • Campws newydd yng Nghil-y-coed ar gyfer addysg uwchradd, dysgu oedolion, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau
    Bydd y campws yn cael ei leoli yn agos i ganol tref Cil-y-coed a’r archfarchnad newydd. Gallai’r campws newydd gael ei sefydlu yn 2016

Adfywio canol tref Cil-y-coed

  • Archfarchnad newydd gyda gwell amgylchedd o’i hamgylch sy’n integreiddio i ganol y dref.
    Bydd partneriaeth yn cael ei ddatblygu i barhau i adfywio canol y dref

Croeso i Lan Hafren

  • Manteisio ar sefyllfa Glan Hafren fel porth i Gymru, ac ar ei hamgylchedd a’i threftadaeth
    Bydd hyn yn cynnwys: datblygu Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed; datblygu defnydd o Lwybr Arfordir Cymru a chynnal gŵyl yr arfordir; cael tirnod ger Magwyr sy’n annog traffig arhosiad byr yn yr ardal leol a datblygu’r hyn y mae ymwelwyr yn ei gael yn y gwasanaethau traffordd ym Magwyr; targedu cymorth i ddatblygu busnesau sy’n seiliedig ar ymwelwyr

Cartrefi gwell yng Nglan Hafren

  • Gweithio gyda’r gymuned, cyngor y dref a Chymdeithas Tai Sir Fynwy i adfywio ac ailfodelu ystadau a gwella’r amgylchedd mewn ardaloedd preswyl

Glan Hafren fentrus

  • Adeiladu ar gryfderau economaidd yr ardal a chreu’r amodau ar gyfer mentrau newydd
    Bydd hyn yn cynnwys cefnogi datblygiadau o ran seilwaith ar gyfer band eang o ansawdd uchel a llety hyblyg; helpu i ddatblygu busnesau newydd; hyfforddi ac annog pobl leol i ddatblygu sgiliau busnes

Cyfleoedd strategol yng Nglan Hafren

  • Gwneud y gorau o’r hyn sydd gennym yn yr ardal. Datblygu’r ddau safle datblygu strategol mwyaf yn yr ardaloedd yn Heol Crug a Fferm Rockfield a chael tai ac adeiladau eraill priodol yma er mwyn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal yn gyffredinol

Creu Glan Hafren well

  • Cael y bobl briodol at ei gilydd a chael y ffyrdd cywir o wneud pethau er mwyn i hyn weithio
  • Bydd bwrdd a chynllun prosiect yn cael eu sefydlu i oruchwylio’r gwaith a chreu’r angerdd am wneud y newidiadau cywir

Gallwch hefyd ofyn cwestiynau neu wneud sylwadau ar Twitter @MonmouthshireCC.