Skip to Main Content

Gwneud cais am grant cartrefi gwag

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae’r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyfraniad gwerth o leiaf 15%.

Mae awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Grwpiau Cartrefi Cymunedol hefyd yn gymwys i geisio am gyllid.

Cymhwysedd

Gall unrhyw un wneud cais am grant, Fodd bynnag, i fod yn gymwys:

  • rhaid bod yr eiddo wedi’i gofrestru yn wag gyda’r awdurdod lleol am o leiaf 12 mis;
  • rhaid bod yr eiddo o dan berchnogaeth yr ymgeisydd, neu ei fod yn y broses o’i brynu pan fo’r cais yn cael ei wneud; ac
  • os yn llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith a hynny fel ei brif a’i unig breswylfa.

Gwneud cais

Gwneud cais am grant cartrefi gwag.

Neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflawni’r cynllun ar ran Cyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru.

Rhif ffôn : 01495 494712

E-bost: GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk


Cynllun Benthyciadau Gwella Tai

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gallu cynnig cymorth ariannol i berchnogion eiddo drwy fentrau benthyca Llywodraeth Cymru.

Gellir benthyg symiau benthyciadau o £5000 – £25,000 yn ddi-log.

Caiff y benthyciad ei sicrhau fel arwystl cyfreithiol yn erbyn yr eiddo gwag, yn debyg i’r diogelwch sy’n ofynnol ar forgais.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig tri chynnyrch benthyciad di-log:

1). Benthyciad Perchennog/Meddianwyr

Wedi’i gynnig i berchnogion eiddo gyda thymor ad-dalu yn dibynnu ar ddefnydd terfynol yr eiddo, hynny yw,

Os yw’r perchennog yn bwriadu meddiannu’r eiddo ar ôl ei adnewyddu, mae’r tymor hyd at 9 mlynedd.

Os nad yw’r perchennog yn bwriadu meddiannu – hyd at 5 mlynedd.

Gellir ad-dalu benthyciadau yn llawn, cyn yr amser hwnnw, heb orfod talu costau ychwanegol.

2). Benthyciad Landlord/Datblygwr

Symiau benthyg o (£5,000 – £25,000 fesul eiddo hyd at uchafswm o 10 eiddo – £250,000)

Cynigiwyd i ddatblygwyr sy’n prynu eiddo gwag i ailddechrau eu defnyddio unwaith eto. Bydd telerau ad-dalu yn dibynnu ar y defnydd terfynol o’r eiddo a adnewyddwyd:

Os yw’r eiddo i gael ei werthu ar ôl ei adnewyddu y cyfnod yw 2 flynedd

Os yw’r eiddo i gael ei rentu am bris rhent y farchnad, y cyfnod yw 5 mlynedd.

Os yw’r eiddo am gael ei rentu ar Gyfradd Lwfans Tai Lleol, ac mae gan y Cyngor hawliau enwebu, y cyfnod yw 9 mlynedd.

3) Benthyciad Adbrisiant Eiddo (BAE)

Symiau benthyciad ar gael o £5,000 i £25,000 sydd ar gael i’r ymgeiswyr hynny yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’ neu’n agored i niwed oherwydd yr oerfel.

Codir ffioedd am weinyddu’r cais am fenthyciad. Cyfeiriwch at ddogfennau canllaw y cynnyrch benthyciad y mae gennych ddiddordeb ynddo am y ffi berthnasol.

Cysylltwch â ni

Steve Griffiths

Swyddog Strategaeth a Pholisi / Tai a Chymunedau

Rhif Ffôn: 01633 644455

Ffôn Symudol: 07785778028 E-bost / emptyhomes@monmouthshire.gov.uk