Skip to Main Content

Cymorth i rai sy’n dioddef Trais Domestig

Yn y cyfnod anodd hwn, mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gofalu amdanom ein hunain a phobl eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu gwefan sy’n rhoi cyngor ymarferol ar sut y gallwch gadw’n saff a diogelu eraill yn eich cymuned. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.llyw.cymru/iach-a-diogel

Byw Heb Ofn:

Mae Byw Heb Ofn yn rhoi cyngor hwylus, defnyddiol a chyfrinachol ar amrywiaeth o faterion a all fod yn berthnasol i’ch sefyllfa. Mae ar agor 24/7, yn rhad ac am ddim ac ni fydd yn dangos ar filiau ffôn. Mae’r llinell gymorth yn rhoi help a chefnogaeth i unrhyw un sy’n profi neu sy’n adnabod rhywun sy’n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae pedair ffordd i gysylltu:

· Ffonio: 0808 80 10 800

· Gwasanaeth testun: 07860 077333

· E-bost: info@livefearfreehelpline.wales · Sgwrs fyw: www.llyw.cymru/byw-heb-ofn

Cymorth i Ferched Cyfannol:

Mae Cymorth i Ferched Cyfannol yn darparu gwasanaethau allgymorth ar draws Sir Fynwy i gefnogi menywod sydd wedi profi cam-drin domestig. Gall cefnogaeth gynnwys help ymarferol gyda chynllunio diogelwch, cefnogaeth emosiynol a help i gael mynediad i wasanaethau eraill. Llinell ffôn Sir Fynwy: 01873 859011 office@cyfannol.org.uk www.cyfannol.org.uk

Help i fynd ar-lein

Cymunedau Digidol Cymru:

Nid yw 11% o oedolion Cymru ar-lein ac mae hyd yn oed fwy yn ei chael yn anodd gwneud rhai pethau ar-lein. Gall Cymunedau Digidol Cymru roi help a chefnogaeth i gadw mewn cysylltiad, cefnogi eich iechyd meddwl, pobl mewn risg o fod yn ynysig, adnoddau addysgol a chadw’n ddiogel ar-lein. Ffoniwch 0300 111 5050.

Help a Chymorth Cyffredinol

Dewis:

Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut y gallwch helpu rhywun arall.

“Wrth sôn am eich llesiant, nid eich iechyd chi yn unig sydd dan sylw. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau. Nid oes dau unigolyn sydd yr un fath ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly mae Dewis Cymru yma i’ch helpu i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi. https://www.dewis.cymru/

Os ydych yn anabl neu’n byw gyda rhywun sy’n anabl:

Mae gan Brosiect Cyngor Anabledd Cymru dîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar bob mater anabledd. Mae’r Prosiect Cyngor Anabledd (DAP) yn cynnig gwasanaeth cyngor helaeth ar anabledd, sy’n cynnwys cyngor ar fudd-daliadau i bobl anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr. https://www.dapwales.org.uk/

Help i Ofalwyr

Bydd Gofalwyr yn wynebu llawer o bwysau ychwanegol yn ystod y gaeaf. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yma i helpu: https://www.ctsew.org.uk/

Help i Rieni Sengl

Mae ymchwil wedi dangos eisoes y bu effeithiau’r pandemig yn neilltuol o ddwys ar gyfer rhieni sengl – p’un ai oherwydd eu sefyllfa ariannol, ymdopi gyda gofal plant, iechyd meddwl neu broblemau eraill. Mae gan Gingerbread, elusen rhieni sengl, amrywiaeth o adnoddau a gynlluniwyd yn benodol i helpu rhieni sengl:

https://www.gingerbread.org.uk/information/benefits-tax-credits-and-universal-credit/

Canfod cefnogaeth os yw Coronafeirws wedi effeithio arnoch:

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ganfod pa help y gallwch ei gael os yw coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnoch. Gallwch ei ddefnyddio ar eich cyfer eich hun neu ar gyfer rhywun arall.

Gallwch gael gwybodaeth am:

· Beth i’w wneud os nad ydych yn teimlo’n ddiogel lle’r ydych yn byw, neu beth i’w wneud os ydych yn poeni am ddiogelwch oedolyn arall neu blentyn

· Mynd i’r gwaith

· Talu biliau neu fod yn ddi-waith

· Cael bwyd neu feddyginiaeth

· Cael rhywle i fyw

· Iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer plant https://gov.wales/find-support-affected-coronavirus