Skip to Main Content

Byddwn yn ceisio cynnig llety mewnol amgen, cynaliadwy o ansawdd gwell i’r rhai sydd eisoes mewn Gwely a Brecwast dros dro ac felly mae’n annhebygol y bydd cynnydd mewn digartrefedd ar y strydoedd. Drwy sicrhau bod hyn yn gyson â’r cynnig cyllideb hwn ac fel rhan o’n gwasanaeth digartrefedd ehangach, rydym yn darparu gwasanaeth allgymorth pendant sy’n ceisio mynd i’r afael â chysgu allan. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu i hwyluso mynediad at lety a chymorth. Bydd yn wasanaeth y byddwn yn parhau i’w ariannu. Rydym yn rhagweld, gan y bydd y cynnig mewnol hefyd yn cynnwys darpariaeth cymorth cofleidiol ar y safle, y byddwn yn gallu helpu unigolion i ddod o hyd i opsiynau mwy cynaliadwy wrth symud ymlaen a helpu i leihau’r risg o golli llety yn y dyfodol.

Gallem ddarparu bagiau bwyd drwy’r banciau bwyd yn rhad ac am ddim i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned. Mae darparu bagiau gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim ar draws pob safle gydag asesiad o feini prawf addas ar gyfer y rhai sy’n agored i niwed neu’r rhai nad ydynt yn agored i niwed yn fwy cymhleth ac mae defnyddio’r banciau bwyd yn opsiwn da.

Rydym eisoes yn edrych i wneud defnydd o rai bythynnod sydd wedi dod ar gael ac sy’n addas fel rhan o’n portffolio ffermydd sirol presennol. Rydym hefyd yn adolygu ein hasedau a’n heiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n dod ar gael wrth i ni eu gadael a’u bod yn wag.

Mae’r gyllideb yn cydnabod y dyfarniadau cyflog ar gyfer ein staff addysgu a’n staff ysgol nad ydynt yn addysgu, sef cyfanswm o £2.2m yn seiliedig ar ein rhagdybiaethau dyfarniadau cyflog ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth reoli dros £20m o bwysau o ran costau ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae angen i’r Cyngor ddod o hyd i £8.4m o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn cyllid, y dreth gyngor a ffioedd a thaliadau. Gofynnir i ysgolion wneud cyfraniad tuag at arbedion effeithlonrwydd cyffredinol y Cyngor o’u cyllidebau ysgolion unigol (CYU). Gwerth y cyfraniad hwn yw £835,000. Rydym wedi talu tua dwy ran o dair o gostau’r dyfarniad cyflog. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn effeithio ar ysgolion a Chyrff Llywodraethu sy’n dal y cyllidebau dirprwyedig hyn, ac a fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch staffio ac adnoddau yn eu hysgolion.

Mewn perthynas â’r cynnig cyflog ar gyfer blwyddyn Academaidd 2023/24, rydym wedi trosglwyddo unrhyw gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i’r dyfarniad cyflog athrawon gwell a negodwyd.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni arbedion arfaethedig mewn cyd-destun heriol o alw cynyddol, mae’r gwasanaeth yn adeiladu ymhellach ar y newid a wnaed y llynedd o ran arferion, gan gynnwys:

· Cefnogi ymarferwyr i gael sgyrsiau ag unigolion a theuluoedd i archwilio sut y gall cryfderau personol, teuluol a chymunedol helpu i gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol

· Sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn cael eu hadolygu mewn modd amserol

· Rhannu penderfyniadau a pherchnogaeth ar asesiadau a chynlluniau gofal ar lefel uwch, sy’n cefnogi ymarferwyr ac yn gwella cysondeb o ran sut rydym yn ymateb i anghenion pobl

· Datblygu arfer yn ymwneud â defnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi annibyniaeth pobl

· Datblygu cysylltiadau cryfach â thai a chymorth yn y gymuned i sicrhau bod annibyniaeth hirdymor pobl yn cael ei hybu i’r eithaf

· Sicrhau bod gwasanaethau ailalluogi ar gael pan fo pobl eu hangen ar ôl salwch neu amser yn yr ysbyty

Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog, mae’r cynnydd arfaethedig o 7.5% yn y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cyfateb i £9.78 y mis ychwanegol, ac rydym yn cydnabod ei fod yn gost ychwanegol i aelwydydd.

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i helpu, er enghraifft, Gostyngiad Person Sengl a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (CTRS) a byddem yn annog aelwydydd i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn. Lle nad yw hyn yn opsiwn, mae aelwydydd yn gallu lledaenu’r gost dros gyfnod o 12 mis yn hytrach na’r 10 mis safonol. Unwaith eto, byddem yn annog trethdalwyr i gysylltu i wneud y trefniadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar gynigion diwygio’r dreth gyngor a allai gynnwys ymarfer ailbrisio a fyddai’n newid y bandiau. Mae’n rhy gynnar felly i bennu’r effaith a gaiff y diwygiadau hyn ar aelwydydd Sir Fynwy.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer ein trigolion, gan gynnwys datblygu ein Rhwydwaith Teithio Llesol. Mae’r cyllid a ddynodwyd yn flaenorol ar gyfer Croesfan Teithio Llesol Gwy wedi dod o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a bydd hyn yn parhau i fod yn wir ar gyfer unrhyw gynnydd ar y cynllun yn y dyfodol. Mae’r cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau i gefnogi cynnydd mewn cerdded ac olwynion (Teithio Llesol) ac felly ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw wasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod Lleol. Yn ystod blwyddyn ariannol 23/24, dyrannwyd y dyfarniad cyllid uchaf yng Nghymru i Sir Fynwy trwy’r broses fidio gystadleuol flynyddol ac mae swyddogion yn parhau i geisio cynyddu effaith y cyllid grant hwn ar gyfer cyllideb 24/25.

Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i gasglu a gwaredu gwastraff cartref ond gallant godi tâl am ei gyfyngu. Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn gallu ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid tai ddarparu eu bagiau eu hunain i’w casglu.

Mae nifer o gynlluniau rhyddhad ardrethi ar gael i neuaddau pentref, ac mae’r Cynllun Rhyddhad Manwerthu yn un ohonynt. Mae’r cynlluniau rhyddhad eraill yn dibynnu ar sut mae’r neuadd bentref yn gweithredu. Er enghraifft, ni fyddai’n rhaid i neuadd bentref sydd wedi’i meddiannu a’n gweithredu fel busnes â gwerth ardrethol o lai na £6,000 dalu unrhyw ardrethi busnes o dan y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBR). Os yw eu gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000, byddent yn cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach wedi’i dapro. Os yw’r neuadd bentref yn gweithredu fel elusen gofrestredig, mae’n gymwys i gael rhyddhad gorfodol o 80%. Os ydynt yn gweithredu ar sail nid-er-elw, maent yn gymwys i gael uchafswm o ryddhad o 80% wedi’i gapio ar £2,500.

Dyfernir y cynllun rhyddhad manwerthu ochr yn ochr â’r rhyddhadau hyn ac ar ôl i bob rhyddhad arall gael ei gymhwyso. Byddai ehangu’r eithriadau hyn yn golygu cost i’r Cyngor a threthdalwyr Sir Fynwy.