Cymorth a Chyngor Cyflogaeth:  

Os ydych angen help cyffredinol neu gyngor am edrych am waith neu newid swyddi, mae llawer o gefnogaeth ar gael gan dîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy (yn cynnwys rhaglenni i gefnogi pobl ifanc, gwybodaeth ar brentisiaethau a chymorth un i un ar gyfer oedolion). Mwy o wybodaeth ar gael yn:

https://www.monmouthshire.gov.uk/employment-skills/

Mae hefyd lawer o wybodaeth yn cynnwys sut i gysylltu â’ch canolfan waith leol yma: https://www.gov.uk/browse/working/finding-job

Cymunedau am Waith a Mwy:

Mae llawer o gyfleoedd gwaith yn dal i fod yn ystod pandemig COVID-19, yn arbennig mewn swyddi gweithwyr allweddol. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yma i helpu a gellir cysylltu â nhw dros y ffôn, drwy e-bost, Facebook a Twitter. Gall Cymunedau am Waith a Mwy roi hyfforddiant, cymorth cyflogadwyedd (megis diweddaru eich CV neu helpu i baratoi am gyfweliadau) a mentora un i un. Gweler y tudalennau cyfryngau cymdeithasol islaw:

Cymunedau am Waith a Mwy Sir Fynwy (Facebook) https://www.facebook.com/cfwmons/  

@monmouthshireYE (twitter) https://twitter.com/monmouthshireye?lang=en

PaCE:

Mae prosiect PaCE (‘Parent, Childcare and Employment’) yn brosiect cyflogadwyedd sy’n helpu rhieni i waith drwy drin y rhwystr gofal plant. Er enghraifft, rhoddwyd cymorth gyda gofal plant i’r rhai sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd i’w galluogi i baratoi ar gyfer y gweithle drwy gwblhau hyfforddiant neu leoliadau gwirfoddol, ysgrifennu CVs, mynychu cyfweliadau swydd neu wneud cais ar-lein am swyddi.

Yn ystod y pandemig mae gwasanaeth cyfyngedig ar gael dros y ffôn neu e-bost gyda chyfarfodydd wyneb i wyneb yn dechrau eto unwaith y daw’r cyfnod clo i ben. Os dymunwch drafod y prosiect ac ymchwilio pa gefnogaeth all fod ar gael i chi yn y dyfodol, cysylltwch â Chris Postle ar 07342 072870 neu anfon e-bost at  christine.postle@dwp.gov.uk