Skip to Main Content

Naomi Lovesay

Hyfforddais a graddiais fel ffisiotherapydd yn 2004 o Brifysgol Birmingham. Ar ôl cwblhau cyfnod iau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, arbenigais mewn Lymffoedema ac arwain Gwasanaeth Lymffoedema De Ddwyrain Cymru oedd yn seiliedig yng Nghanolfan Canser Felindre. Rhwng 2013-2017 bûm yn gweithio i medi UK fel Hyfforddwr Clinigol, cyn cymryd blwyddyn mas i dreulio amser gyda fy nghrwt bach ac yna ddechrau gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy yn 2018. Rwyf wedi mwynhau fy mlwyddyn gyntaf yn Sir Fynwy yn fawr iawn ac yn ogystal â gwaith a bywyd teulu rwy’n rasio i Tîm Damascio, yn seiclo sbrint yn y Felodrom!

Julia Collacott

Dechreuodd fy ngyrfa mewn gofal yn 1980au pan gymhwysais fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig yng Nghaerdydd. Roeddwn yn Nyrs Staff a Rheolwr Ward mewn nifer o arbenigeddau mewn ysbytai a hefyd mewn gosodiadau cymunedol.

Pan oedd fy mhlant yn ifanc roeddwn angen patrwm gwaith mwy rheolaidd a gweithiais i’r Coleg Brenhinol Nyrsio fel Cynghorydd Nyrsio, Swyddog Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Hyfforddiant.

Rwyf wedi bod gyda Chyngor Sir Fynwy am bron 6 mlynedd erbyn hyn, yn gyntaf fel Hyfforddydd Gofal Cymdeithasol ac yn fwy diweddar fel Swyddog Datblygu Gweithle.

Dominque Davies

Fy enw yw Dominique Davies ac rwy’n drefnydd hyfforddiant ar gyfer y Tîm Datblygu Gweithlu. Rwy’n trefnu cyrsiau hyfforddiant ar gyfer yr adran oedolion o fewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yng Nghyngor Sir Fynwy ac ar gyfer y darparwyr o fewn Sir Fynwy. Cymhwysais i ddechrau fel ysgrifenyddes ddwyieithog, yna symud i fyd Adnoddau Dynol am tua 18 mlynedd, cyn cymryd y swydd newydd mewn hyfforddiant ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.

Rachel Cox

Dechreuais fy nhaith gyda Chyngor Sir Fynwy yn llanw dros gyfnodau gwyliau yn yr Uned Hyfforddiant yn Heol Sunnybank yn Griffithstown. Pan rannodd Gwent, daethom yn Gyngor Sir Fynwy a symud i Dŷ Nantyderi ger y Fenni ac roeddwn yn gweithio yn y Dderbynfa yno am rai blynyddoedd cyn symud i ddod yn Gynorthwyydd Gweinyddol ac wedyn yn Drefnydd Hyfforddiant ar gyfer Gwasanaethau Oedolion.

Wedyn symudais i Coed Glas yn y Fenni lle cymerais gyfnod mas yn dilyn geni fy mhlant. Ar ôl bod bant am 5 mlynedd, dychwelais i Coed Glas. Yn sydyn wedyn daeth symud arall i’n gweithle presennol yn Nhŷ Arloesedd yn Magwyr. Cafodd y tîm ei uno mewn ailstrwythuro gydag Adnoddau Dynol a Chyflogres a deuais i’n rhan o’r Gronfa Cymorth.

Ar ôl dileu swydd yn y tîm hyfforddiant ailymunais fel Trefnydd Hyfforddiant, y tro hwn i Gwasanaethau Plant a dyma lle’r wyf ar hyn o bryd er fy mod wedi ennill sgiliau newydd ar hyd y ffordd a hefyd yn hwyluso hyfforddiant Cymorth Argyfwng, Symud a Chodi a Chario a Materion Gofal Dementia.

Sue Wooding

Fi yw’r Swyddog Datblygu Dysgu Ymarfer ac yn trefnu lleoliadau ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Rwy’n cefnogi’r myfyrwyr a’u haseswyr ymarfer yn ystod eu lleoliadau, a all fod rhwng 20 a 100 diwrnod o hyd. Rwyf hefyd yn gweithio gyda’r prifysgolion lle mae’r myfyrwyr yn astudio. Mae’n wych gweld y myfyrwyr yn dysgu a datblygu. Maent yn cael budd mawr o’u hamser yn Sir Fynwy, ac o’r ystod eang o dimau y cânt eu lleoli gyda nhw. Mae fy nghefndir mewn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gydag oedolion.

Kate Neil-Taylor

Cymhwysais fel gweithiwr cymdeithasol yn 2009 ar ôl gweithio mewn gofal cymdeithasol ers 2004. Mae gennyf gefndir amrywiol ar ôl gweithio o fewn gwasanaethau plant, o fewn y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid ac o fewn y Tîm Cefnogaeth Ddwys i Deuluoedd. Yn ogystal â hyn rwyf wedi gweithio yng Ngholeg Penybont yn addysgu cwrs gradd Gwaith Cymdeithasol BA Met Caerdydd. Rwyf wedi wirioneddol fwynhau gweithio’n agos gyda phobl ac yn ei theimlo’n fraint fawr i gael y cyfleoedd hyn. Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau cerdded – sy’n llawn cystal gan fod gennym 3 ci!! Rwyf hefyd yn mwynhau crefftau, darllen ac wrth gwrs dreulio amser gyda fy nheulu. Mae croeso i chi gysylltu â fi os oes gennych unrhyw ymholiadau y gallaf helpu gyda nhw.

Sophie Cook

Cyn ymuno â Chyngor Sir Fynwy ym mis Gorffennaf 2018 penderfynais fynd i deithio o amgylch y byd gyda fy mhecyn ar fy nghefn am ychydig o flynyddoedd. Manteisiais ar eu “Fisas Gwyliau Gwaith” gwych mewn nifer o wahanol leoedd.

Rwyf wedi gweithio mewn llawer o wahanol swyddi yn amrywio o weini ar fyrddau, hel ffrwythau i ddod yn Hyfforddydd Plymio Scuba PADI ar y Great Barrier Reef! Dechreuais weithio gyda Chyngor Dinas Auckland fel Cydlynydd Ymgynghorol tra roeddwn yn Seland Newydd – roedd hyn yn llawer iawn o hwyl gan fy mod yn cael helpu trefnu eu holl wahanol brosiectau.

Nawr gyda Chyngor Sir Fynwy, rwy’n gweithio fel gweinyddydd busnes i’r Tîm Datblygu Gweithlu a’r Tîm Trawsnewid. Ers ymuno â’r Tîm Datblygu Gweithlu fy swydd fu helpu adeiladu brand i’n hunain a marchnata hynny ar yr holl wahanol fathau o gyfryngau cymdeithasol – gan ddangos yr holl elfennau a roddwn i helpu eraill.