Skip to Main Content

Syrfëwr Eiddo dan Hyfforddiant

Bydd y prosiect yn targedu pobl ddi-waith, y rhai mewn addysg amser llawn sy’n chwilio am waith a phobl sy’n ceisio newid gyrfa o waith isel neu ddi-grefft yn Sir Fynwy.  Mae’r hyfforddeion yn cwblhau cymhwyster trac cyflym achrededig mewn Tirfesur Adeiladau, Sero NET, datgarboneiddio a’r cyrsiau ôl-osod. Bydd cyfranogwyr yn cofrestru gyda RICS fel partner a bydd cyfle i symud ymlaen i statws siartredig llawn.  Bydd cyflogaeth ddilynol yn cael ei sicrhau ar ôl cwblhau’r rhaglen, lle gall cyfranogwyr symud ymlaen i brentisiaeth uwch a/neu radd yn y brifysgol.

Darryl Williams

Rheolwr Rhaglen y Prentis
www.yprentis.co.uk

Email: darryl.williams@yprentis.co.uk

📞:  01495 745913 | 📞: 07496 758015

David Harris

Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant

“Fy nod pan ddechreuais oedd dod o hyd i swydd llawn amser ym maes syrfëwr – ac rydw i bellach wedi’i gyflawni hynny, diolch i raglen Y Prentis. Wrth edrych ymlaen nawr, dwi’n canolbwyntio ar gwblhau fy hyfforddeiaeth a dod yn syrfëwr llawn.”

Rebecca Diamond

Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant

“Dwi wedi ennill cymwysterau defnyddiol iawn a fydd, gobeithio, yn fy ngwneud i’n fwy cyflogadwy.  Mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy, sydd wedi fy lletya, wedi bod mor groesawgar, a dwi eisoes yn teimlo fel rhan o’r tîm.”

Naomi Pang

Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant

“Trwy ddarparu hyfforddiant yn y swydd, ces i brofiad i roi cynnig ar y rolau sydd ar gael ac ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, gan wneud sylfaen gadarn iawn i mi ddechrau fy ngyrfa mewn eiddo.”

Matthew Ormerod

Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant

“Dwi’n teimlo ers dechrau’r cynllun bo fi wedi dod yn fwy hyderus a gwybodus mewn sawl ffordd ac yn fwy uchelgeisiol wrth feddwl am fy nyfodol.”

Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.