Skip to Main Content

Nid yw’r ffaith fod cerbyd sydd heb ei drethu yn achosi rhwystr, wedi parcio’n anghyfreithlon, yn achosi bygythiad o berygl neu’n ddolur llygad, yn golygu ei fod wedi’i adael yn anghyfreithlon. Yr awdurdod gorfodaeth ar gyfer cerbydau heb eu trethu a adawyd ar briffordd gyhoeddus yw’r DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau).

Dim ond os ydym yn fodlon fod cerbyd wedi ei adael yn anghyfreithlon ar dir heb unrhyw berchennog yn debygol o hawlio meddiant arno y caiff cerbydau eu dosbarthu fel cerbydau gadawedig.

Sut i wneud adroddiad am gerbyd gadawedig

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Cerbydau heb eu trethu

Os dymunwch wneud adroddiad am gerbyd heb ei drethu, cysylltwch â  vehicles.dvla@gtnet.gov.uk

Cerbydau wedi’u dwyn

Os credwch y cafodd y cerbyd ei ddwyn, hysbyswch Heddlu Gwent yn y rhif perthnasol ar gyfer gorsafoedd heddlu a ddangosir islaw.

Cerbydau’n achosi rhwystr

Os yw’r cerbyd yn achosi rhwystr, mae rhaid hysbysu’r heddlu’n uniongyrchol am hyn.

Pencadlys Heddlu Gwent, Cwmbran Ffôn: 01633 838999
Swyddfa Heddlu’r Fenni Ffôn: 01873 852273
Swyddfa Heddlu Trefynwy Ffôn: 01600 712321
Swyddfa Heddlu Cas-gwent Ffôn: 01291 623993
Swyddfa Heddlu Cil-y-coed Ffôn: 01291 430999

Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig Ffôn: 0800 405040
(Ar gyfer cerbydau ar dir rheilffordd)

Mae gan fy ngherbyd hysbysiad arno yn dweud y caiff ei symud

Os rhoddwyd hysbysiad statudol ar eich cerbyd cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd ar unwaith. Fel arfer bydd yr hysbysiad a roddwyd ar y cerbyd yn rhoi’r manylion cyswllt priodol i chi.

Cafodd fy ngherbyd ei symud

Mae’n bwysig cysylltu â ni’n gyflym os dymunwch gael cerbyd gadawedig yn ôl. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy ffonio. Gofynnir i chi ddangos y dogfennau perthnasol sy’n cadarnhau mai chi yw perchennog cyfreithol y cerbyd.