| Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Dinas Casnewydd yn rhannu’r gwasanaeth hwn; ar adegau efallai y cewch eich cyfeirio at wefan neu gyfeiriad e-bost Cyngor Dinas Casnewydd. |


Mae mudiad Dinas Noddfa y DU wedi dyfarnu statws Cyngor Noddfa i Gyngor Sir Fynwy yn 2026, gan ei wneud y cyngor sir cyntaf yng Nghymru i gael y gydnabyddiaeth hon.
Mae’r wobr yn adlewyrchu ymrwymiad y cyngor i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Fe’i dyfarnwyd yn dilyn asesiad gan Ddinas Noddfa y DU, mudiad cenedlaethol sy’n gweithio i greu diwylliant o groeso a chynhwysiant i ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Dyfarnu statws Cyngor Noddfa i Gyngor Sir Fynwy
Rhif cyswllt a llinell gymorth: 01633 656656 (09.00am – 5.00pm Dydd Llun i Dydd Gwener)
Cyfeiriad e-bost: refugeeresettlement@newport.gov.uk