Skip to Main Content

Diwygiad ADY

O fis Medi 2021, bydd y ffordd y bydd anghenion addysgol arbennig (AAA) plant a phobl ifanc yn cael eu nodi, eu hasesu a’u diwallu yng Nghymru, yn newid.

Pasiwyd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg ym mis Ionawr 2018 a chyhoeddwyd Cod ADY Cymru 2021 ym mis Ebrill 2021.  Mae’r ddogfen hon yn nodi’n fanwl sut y bydd y system ADY yn gweithio’n ymarferol.

Beth yw’r diwygiadau?

Bydd rhai newidiadau sylweddol.  Er enghraifft, fel y mae enw’r ddeddf yn awgrymu, bydd y term ‘anghenion addysgol arbennig (AAA)’ yn cael ei ddisodli gan ‘anghenion dysgu ychwanegol (ADY)’.  Mae hyn yn ei dro yn golygu y bydd Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu hadnabod fel Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd Gweithredu’r Ysgol/Blynyddoedd Cynnar, Gweithredu’r Ysgol/Blynyddoedd Cynnar a Mwy yn diflannu a bydd pob plentyn sydd ag ADY cydnabyddedig, sy’n gofyn am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DdDY) yn cael dogfen statudol newydd o’r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn y pen draw. I’r rhai sydd ag ADY nad oes angen DDdY arnynt, bydd Proffil Un Dudalen yn cael ei gyhoeddi. Nid yw hyn i’w gymysgu â chynlluniau addysg unigol (CAU) a fydd hefyd yn cael eu tynnu’n raddol. Yn wahanol i ddatganiadau, sy’n dod i ben pan fydd person ifanc yn gadael yr ysgol, bydd CDUau yn parhau hyd at 25 oed os bydd y person ifanc yn mynd i addysg bellach. 

Ar hyn o bryd, bydd Datganiadau AAA yn cael eu tynnu’n raddol i’r system newydd a’u trosi’n CDUau yn unol â llinell amser Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn trawsnewid y systemau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (ADD) mewn addysg bellach, i greu system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr o 0 i 25 oed sydd ag ADY. Bydd y system wedi’i thrawsnewid yn:

  • sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni eu potensial llawn
  • gwella’r gwaith o gynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr o 0 i 25 oed sydd ag ADY, gan roi anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y broses
  • canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a sefydlu ymyriadau amserol ac effeithiol sy’n cael eu monitro a’u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu trosolwg o’r system newydd ac wedi llunio atebion i rai cwestiynau cyffredin. Gyda’i gilydd byddant yn rhoi syniad da i chi o sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bethau weithio. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

Beth sy’n digwydd nesaf?

Gan y bydd y newid i’r system newydd yn golygu newidiadau mawr i awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau addysg bellach caiff ei gyflwyno’n raddol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau sy’n esbonio’r amserlenni dan sylw.

Mae gan bob rhanbarth arweinydd Trawsnewid penodedig a fydd yn:

  • Chwarae rhan hollbwysig yn y strategaeth weithredu gyffredinol
    • Sicrhau bod ALlau yn barod i ddarparu’r system ADY newydd.
    • Cefnogi a herio awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach.
    • Cydlynu’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant gweithredu ar y Ddeddf, codi ymwybyddiaeth a hwyluso gwelliannau mewn gwaith amlasiantaethol.

Yr Arweinwyr Trawsnewid Penodedig yw:

Margaret Davies, rhanbarth Gogledd Cymru; Huw Davies rhanbarth Gorllewin Cymru; Liz Jones Canol De; Tracey Pead, De Ddwyrain Cymru; Chris Denham Addysg Bellach. 

Margaret Davies, North Wales region; Huw Davies West Wales region; Liz Jones Central South; Tracey Pead, South East Wales; Chris Denham Further Education.

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021