Skip to Main Content

Hysbysu am broblem

Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i gofnodi problem Hawliau Tramwy Gyhoeddus

Y Gwasanaeth Cefn Gwlad syn gyfrifol am y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus (sef 1650 km) y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog syn gyfrifol am y 500 km o lwybrau sydd o fewn eu hardal yn Sir Fynwy.

Rydym wedi cyhoeddi canllaw Problemau, Polisau a Phrotocolau  ar ffurf Hawliau Tramwy A-Ych helpu i ddeall y polisi a’r protocolau syn berthnasol i hawliau tramwy cyhoeddus. Cofiwch eich bod yn cysylltu nios hoffech gopi caled neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

I roi gwybod am broblem gydag unrhyw hawliau tramwy yn Sir Fynwy, llenwch ein ffurflen ar lein.

Cynllun gwella hawliau tramwy cyhoeddus

Rydym wedi ymrwymo i wellar rhwydwaith o hawliau tramwy. Rydym yn edrych ar yr hyn sydd gennym a sut y gellid ei wella ar gyfer ymwelwyr i Sir Fynwy a phobl syn byw a gweithio yno.

Mae cynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT), fel syn ofynnol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi ein helpu i wneud hyn. Maer CGHT yn ein helpu i nodi a chynllunio blaenoriaethau. Mae hefyd yn ein helpu i wneud cynlluniau ynghylch gwellar mynediad presennol sydd ar gael yn y sir. Maen cynnwys Datganiadau Gweithredu i reoli hawliau tramwy cyhoeddus a gwella mynediad i’r cefn gwlad dros y deng mlynedd nesaf.

Adolygiad Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Gweithredu bioamrywiaeth ar hawliau tramwy cyhoeddus

Mae rhwydwaith helaeth o hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Fynwy syn rhoi mynediad i grwydro cefn gwlad. Maen gofyn am gynhaliaeth barhaol i sicrhau diogelwch y cyhoedd a hygyrchedd i bawb. Maer rhwydwaith yn mynd trwy gynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr, y mae llawer ohonynt yn dod o fewn safleoedd dynodedig syn cael eu gwarchod yn gyfreithiol ac sydd ganddynt gynlluniau gweithredu ar waith iw cynnal. Maen hanfodol y caiff bioamrywiaeth ei hystyried mewn gweithrediadau cynnal a chadw, cynlluniau gwella, a phob gwaith hawliau tramwy i sicrhau eu bod yn glynu at ddeddfwriaeth bywyd gwyllt bresennol y DU.

Mae cynllun gweithredu bioamrywiaeth ar hawliau tramwy cyhoeddus a llawlyfr cryno technegol wediu paratoi er mwyn cydymffurfio gofynion hyn ac oherwydd awydd i wneud y peth iawn. Bwriedir iddynt fod yn ddogfennau gwaith, iw defnyddio yn ddyddiol au diweddaru i adlewyrchur hyn yr ydym yn ei ddysgu wrth roir cynllun ar waith.

Cafodd y cynllun ei baratoi gyda chymorth grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth Cymru.

Symud neu gau hawl tramwy cyhoeddus

Er mwyn symud neu gau llwybr cyhoeddus, maen rhaid cael gorchymyn ffurfiol.

Er mwyn gwyro neu gau llwybr, cysylltwch cefn gwlad a mynediad, syn gallu rhoi cyngor a sicrhau eich bod yn cael pecyn cais ac arweiniad.

Gwyro llwybrau

Maen rhaid ir llwybr newydd:

  • ddechrau a gorffen ar yr un briffordd r llwybr presennol, neu ar briffyrdd syn arwain atynt
  • peidio ag achosi niwsans ir cyhoedd
  • cymryd i ystyriaeth yr effaith y gallai gael ar foddhad y cyhoedd a thirfeddianwyr cyfagos

Dileu llwybrau

Gellir cau llwybr presennol os:

  • bydd llwybr amgen yn cael ei greu
  • nad oes ei angen at ddefnydd cyhoeddus

Mae “unwaith yn briffordd, wastad yn briffordd” yn ymadrodd syn golygu mewn gwirionedd ei bod bron yn amhosibl i gael gwared ar hawliau tramwy cyhoeddus unwaith y byddant wedi cael eu sefydlu. Oherwydd hyn, maen bolisi gennym i gadw hawliau tramwy cyhoeddus presennol ac ymestyn y rhwydwaith lle bo hynnyn bosibl.

Costau

Fel arfer, yr ymgeisydd syn gyfrifol am gost y gorchymyn. Maer costau tebygol yn cael eu hamlinellu yn y pecyn cais ac arweiniad, ynghyd manylion ein gweithdrefn wrth wyro neu gau llwybr.

Maer Arolwg Ordnans yn derbyn copi or gorchymyn digwyddiad cyfreithiol fel y gallant ddiweddaru eu mapiau Pathfinder ac Explorer.