Skip to Main Content

Gwahoddir rhieni i fynegi hyd at dri dewis (yn nhrefn blaenoriaeth) rhag ofn y byddai angen gwrthod derbyn i’r ysgol a ffafrir. Cewch eich cynghori’n gryf i gynnwys mwy nag un dewis ar eich cais gan y byddwch dan anfantais o gymharu â cheisiadau eraill os na wnewch hynny.

Caiff eich dewisiadau eu hystyried yn gyfartal yn unol â meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ac ni fydd yn seiliedig ar y drefn y rhestrwch eich dewisiadau. Fodd bynnag, cynigir yr ysgol dewis uchaf os gellir cyflawni un neu fwy o ddewisiadau.

Gofynnir i chi nodi y bydd cais a wneir i fynychu ysgol annibynnol neu ysgol y tu allan i Sir Fynwy yn cymhwyso fel un o’ch dewisiadau a chaiff ei gyfrif yn unol â hynny.

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich cyfeirnod treth gyngor ar y ffurflen gais a anfonir atoch. Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r wybodaeth a gedwir gan adran y dreth gyngor i wirio bod eich cyfeiriad yn gywir. Os nad ydych eisiau rhoi eich caniatâd i ni gael mynediad i’r data treth gyngor, yna anfonwch gopi o’ch datganiad treth gyngor atom os gwelwch yn dda.

Os ydych yn y broses o symud i fyw mae’n rhaid i chi roi, gyda’ch cais, gopi o Gyfnewid Contractau neu gytundeb tenantiaeth hirdymor i ddilysu eich symudiad. Bydd angen i’r wybodaeth yma gael ei hanfon atom cyn y dyddiad cau i osgoi cael ei hystyried dan drefniadau’r awdurdod am geisiadau hwyr.

Dylid gwneud newid mewn dewis mewn ysgrifen i’r uned ysgolion a derbyn myfyrwyr. Bydd unrhyw ddewis a newidir ar ôl y dyddiad cau yn golygu y caiff y cais ei drin fel cais hwyr.

Arweiniad ar dderbyn i ysgol gynradd

Bydd yr awdurdod lleol yn derbyn plentyn i ysgol gynradd/babanod a gynhelir ar ddechrau’r flwyddyn academaidd pan fydd yn 5 mlwydd oed. Mae’r gofynion cyfreithiol yn cadarnhau y gall rhieni oedi derbyn eu plentyn tan y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 5 oed.

Fodd bynnag polisi’r cyngor yw y bydd y plentyn parhau i ddilyn eu grŵp blwyddyn gronolegol os nad oes amgylchiadau eithriadol.

Nid yw mynychu uned feithrin sy’n bwydo’r ysgol gynradd yn golygu nad oes angen gwneud cais am le yn nosbarth derbyn yr ysgol. Dylid nodi na roddir blaenoriaeth ar gyfer mynediad i’r plant hynny sy’n mynychu uned feithrin sy’n bwydo’r ysgol gynradd.

Canllawiau ysgol uwchradd

Os yw’ch plentyn yn mynychu’r ysgol fwydo ar gyfer eich dewis o ysgol uwchradd ar hyn o bryd, gofynnir i chi nodi nad yw hyn yn gwarantu lle i chi. Gwnawn bob ymdrech i ddarparu ar gyfer dewis rhieni.