Skip to Main Content

Yn unol â’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr a Pholisi Cludiant Sir Fynwy darperir cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim dim ond i ddisgyblion sy’n mynychu eu hysgol ddalgylch neu agosaf ac sy’n byw mwy na 1.5 milltir o’u Hysgol Gynradd a mwy na 2 filltir o’u Hysgol Uwchradd.  Mae’r pellteroedd hyn yn ymwneud â’r llwybr cerdded byrraf sydd ar gael rhwng y cartref a’r ysgol, yng nghwmni oedolyn os oes angen.

Er bod gan bob ysgol ddalgylch ei hun o dan bolisi derbyn ysgolion y cyngor, gall rhieni fynegi ffafriaeth am unrhyw ysgol yr hoffen nhw i’w plentyn fynychu.   Os byddwch yn dewis anfon eich plentyn i ysgol nad yw yr ysgol ddalgylch neu’r ysgol agosaf, yna rydych wedi ymarfer eich dewis rhiant ac wrth wneud hynny byddwch wedi colli’ch hawl i gael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol.  Mae hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am y trefniadau cludiant i’ch plentyn fynychu eich ysgol ddewisol drwy gydol ei addysg. 

Os na fydd eich cais i ysgol ddewisol yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda chludiant dim ond os bydd eich plentyn yn mynychu naill ai ysgol y dalgylch fel dewis arall neu yr ysgol nesaf sydd ar gael (a benderfynir gan y cyngor) ac os bodlonir y pellter cymhwyso.

Nid oes angen i ddisgyblion sydd eisoes yn derbyn Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol am Ddim ailymgeisio am gludiant oni bai eu bod wedi symud cyfeiriad cartref neu wedi newid ysgol.

Os oes newid ysgol, cyfeiriad cartref neu os yw’r cyngor yn canfod llwybr cerdded byrrach o fewn y terfyn meini prawf pellter, efallai na fydd plentyn bellach yn gymwys i dderbyn Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol am Ddim.

Mae rhai amgylchiadau lle y gellir dyfarnu cludiant dewisol er nad yw’r dysgwr yn bodloni’r meini prawf pellter.  Os oes gan eich plentyn gyflwr meddygol neu anabledd sy’n effeithio ar ei allu i gerdded i’r ysgol, byddwch yn gallu gwneud cais am gludiant dewisol. Dyfernir hyn yn flynyddol a bydd angen tystiolaeth feddygol arnom i gefnogi eich cais.  

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gludiant statudol, cyfeiriwch at y nodiadau canllaw sydd i’w gweld drwy ddilyn y ddolen isod. 

Darllenwch dros y polisi ac yna cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar Fy Sir Fynwy. Os nad ydych yn barod wedi cofrestru ar gyfer Fy Sir Fynwy, bydd angen i chi wneud hyn, gan ddefnyddio’r ddolen isod, cyn cwblhau’r ffurflen gais.

Trwy gofrestru a chwblhau’r ffurflen ar-lein gallwch olrhain cynnydd eich cais a derbyn diweddariadau wrth iddi gael ei phrosesu. Ar ôl cofrestru, bydd y ffurflen gais ar gael yn adran Ysgolion a Dysgu Fy Sir Fynwy.

Os ydych wedi cofrestru eisoes gan ddefnyddio app Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows, yna gallwch ddefnyddio’r un e-bost a chyfrinair i fewngofnodi. 

Cliciwch yr eicon islaw i lenwi’r ffurflen –