Skip to Main Content

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) yw’r ddogfen gyfreithiol statudol sydd ei hangen i ategu unrhyw fesur gorfodadwy neu fesur priffyrdd. Mae’n galluogi’r Awdurdod Priffyrdd i reoleiddio cyflymder, symudiadau ac arferion parcio cerbydau a rheoleiddio symudiadau cerddwyr, sy’n orfodadwy naill ai gan Swyddogion Gorfodi Sifil Cyngor Sir Fynwy neu’r heddlu.

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a gynigir.

Mae cyfraith y DU yn ei gwneud yn ofynnol i GionRhT fod ar waith i alluogi’r heddlu neu, yn achos llinellau melyn, y cyngor, i orfodi’r cyfyngiadau hyn.

Mae angen dilyn proses hir i greu GRhT sy’n cynnwys y camau canlynol:

Ymgynghori

Ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad. Bydd angen ceisio barn y Gwasanaethau Brys, Cymdeithasau Trafnidiaeth Gyhoeddus, Aelodau Ward Lleol a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus lleol.

Os bydd cynnig yn cynnwys addasiadau i’r priffyrdd neu effaith sylweddol ar ddefnyddwyr ffordd gellir, lle y bo’n briodol, ymgynghori â grwpiau lleol â diddordeb fel preswylwyr, masnachwyr a grwpiau cymunedol y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arnynt. Gall y cynnig gael ei ddiwygio ar ôl yr ymgynghoriad.

Hysbyseb

Mae’r GRhT yn cael ei hysbysebu yn y wasg leol a gellir ei archwilio ar-lein yma hefyd. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i arddangos hysbysiadau cyhoeddus ar unrhyw ffyrdd y gall y newidiadau effeithio arnynt a lle yr ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny.

Sylwadau

Mae’n rhaid i unrhyw sylwadau ar y cynigion gael eu gwneud yn ysgrifenedig, gan nodi rhesymau, i’r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad yn ystod cyfnod hysbysu, sy’n para o leiaf 21 diwrnod. Wrth ystyried y sylwadau, mae’n rhaid i Swyddogion wneud argymhellion i naill ai (a) caniatáu i’r cynllun symud yn ei flaen yn unol â’r hysbyseb, (b) addasu’r cynllun, neu (c) peidio â symud y cynllun yn ei flaen. Yna mae’r argymhellion hyn yn cael eu hystyried gan Aelod Cabinet a gwneir penderfyniad terfynol ar ffurf Adroddiad Penderfyniad Swyddog.

Gwneud y Gorchymyn

Gall y GRhT gael ei selio’n ffurfiol os yw’r holl sylwadau sydd wedi dod i law wedi’u hystyried. Gallai addasiadau i’r cynigion a wneir yn sgil y sylwadau olygu bod angen

ymgynghori ymhellach. Gall y weithdrefn hon gymryd misoedd i’w cwblhau a gall ffioedd hysbysebu a ffioedd cyfreithiol fod yn sylweddol.

Hysbysiad o orchymyn

Bydd y Gorchymyn yn cael ei hysbysebu yn y wasg leol eto a bydd yr adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn hysbysu’r sawl sydd wedi gwneud sylwadau ar y cynllun bod y Gorchymyn wedi’i wneud. Daw’r Gorchymyn i rym o’r dyddiad a nodir yn yr hysbyseb.

Yn amodol ar Atodlen 9 Rhan VI Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, gall unrhyw un sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw un o’r darpariaethau ynddo ar sail y ffaith nad yw’r Gorchymyn o fewn y pwerau statudol neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o’r gofynion neu reoliadau perthnasol a nodir isod mewn perthynas â’r Gorchymyn, gall, o fewn chwe wythnos i ddyddiad y Gorchymyn, wneud cais at y diben hwnnw i’r Uchel Lys.