Mae pob gwasanaeth AM DDIM. Nid yw o bwys pa fath o gartref yr ydych yn byw ynddo, nid yw o bwys os nad oes gennych gartref ar hyn o bryd, nid yw o bwys ym mhle yn Sir Fynwy yr ydych yn byw, gall unrhyw un wneud cais.
Gall Cymorth Tai gynorthwyo gydag ystod o faterion. Caiff cymorth ei ddarparu un ai gan dîm mewnol Cyngor Sir Fynwy neu drwy amrywiaeth o ddarparwyr sy’n gweithio gyda’r Porth.
Mae dewis ehangach o wasanaethau hefyd ar gael drwy’r Porth. Gall y gwasanaethau hyn helpu gyda materion yn ymwneud â hyrwyddo iechyd a llesiant, cynhwysiant cymdeithasol a pherthynas deuluol.
Gall cymorth tai:-
· Eich helpu i ddod o hyd i gartref a sut i gynnal cartref
· Eich helpu i sefydlu eich cartref eich hun
· Eich helpu i wneud hawliau perthnasol am fudd-daliadau a thrin materion Credyd Cynhwysol
· Eich helpu i drin arian a dyledion
· Eich helpu i gael mynediad i wasanaethau eraill, yn cynnwys gwasanaethau iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol
· Eich helpu i gael mynediad i addysg, hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth
· Eich helpu i gysylltu a chydlynu gydag asiantaethau eraill.
Mae’r bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau cymorth yn cynnwys:-
· Pobl gyda phroblemau iechyd meddwl
· Pobl gydag anawsterau corfforol
· Pobl gydag anawsterau dysgu
· Pobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig
· Pobl gyda salwch cronig
· Teuluoedd sydd angen cymorth
· Pobl ifanc sydd angen cymorth
· Pobl ifanc (16 oed neu drosodd)
· Pobl sydd â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau
· Pobl sy’n gadael carchar
· Pobl hŷn (55 oed a throsodd)
Gall unrhyw un wneud cais