Skip to Main Content

Beth yw Craffu?

Craffu yw’r gweithgaredd o herio penderfyniadau a pholisïau i sicrhau y canlyniad gorau posibl ar gyfer pobl Sir Fynwy.

Pam ein bod ei angen?

Mae craffu yn ofyniad deddfwriaethol i wella llywodraethiant corfforaethol drwy sicrhau agoredrwydd, atebolrwydd a thryloywder mewn gwneud penderfyniadau.

Sut ydym yn craffu?

Bydd y cymunedau eu hunain yn gwneud llawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau. Caiff penderfyniadau hefyd eu gwneud gan Swyddogion y Cyngor, gan ‘Bwyllgor Gweithredol’ y Cyngor (yr arweinyddiaeth wleidyddol) a gan y Cyngor llawn (pob Cynghorydd). Er mai’r Pwyllgor Gweithredol sy’n cynnig ac yn gweithredu polisi, mae gan weddill y Cynghorwyr rol Craffu allweddol mewn pump Pwyllgor Dethol:

Diben Pwyllgorau Craffu a Dethol yw sicrhau y caiff Cynghorwyr a Swyddogion eu dal yn atebol am y penderfyniadau a wnânt ar ran cymunedau. Nid oes gan Bwyllgorau Craffu bwerau gwneud penderfynu, fodd bynnag maent yn profi os yw’r Cyngor yn gwneud y penderfyniadau a mabwysiadu’r polisïau cywir ac yn gwneud argymhellion am sut y gellir gwella’r gwasanaethau’r Cyngor. Mae mwy o fanylion ar Gylch Gorchwyl Pwyllgorau Dethol Sir Fynwy ar gylch gorchwyl y pump Pwyllgor Dethol.

Sut mae’r Pwyllgorau Craffu yn gweithredu?

• Mae pob Pwyllgor Craffu yn cwrdd bob chwech wythnos, a threfnir cyfarfodydd ychwanegol pan fo angen.

• Mae’r pwyllgor yn cynnwys 9 Aelod anweithredol ac mae’r Pwyllgor yn ethol Cadeirydd bob blwyddyn.

• Mae’r Pwyllgorau Craffu yn gosod eu hagenda eu hunain ac yn cytuno ar flaenraglen waith ar gyfer y flwyddyn.

• Mae Pwyllgorau Craffu yn craffu penderfyniadau cyn iddynt gael eu gwneud a gallant hefyd adolygu pendrefyniadau’r gorffennol – craffu Cyn Penderfyniad ac Ar ôl Penderfyniad.

• Gall Pwyllgorau Craffu gwrdd ar y cyd i drafod materion o ddiddordeb cyffredin.

• Gall Pwyllgorau Craffu gynnull gyda Phwyllgorau Craffu Cyngor eraill i graffu gwasanaethau neu feysydd o gonsyrn cyffredin ar y pryd.

Mae protocol y Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol yn rhoi esboniad manwl o reolau a rheoliadau Craffu.

Pam fod craffu yn bwysig?

Cyn Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu yn esbonio pam fod craffu yn bwysig

Sut mae Pwyllgorau Craffu yn penderfynu beth i’w graffu?

Bydd y Pwyllgorau Craffu yn dethol pynciau ar gyfer craffu drwy ystyried:

• Y Cabinet a Blaengynllunydd y Cyngor

• Awgrymiadau a wnaed gan y cyhoedd

• Asesiad Risg y Cyngor

• Awgrymiadau Swyddogion

• Awgrymiadau Aelodau eu hunain

Os hoffech awgrymu eitem ar gyfer craffu, anfonwch e-bost scrutiny@monmouthshire.gov.uk  

Sut mae Craffu yn dylanwadu ar ganlyniadau ar gyfer y cyhoedd?

• Mae Pwyllgorau Craffu yn asesu effaith polisïau’r Cyngor ar gymunedau lleol ac argymell gwelliant. Er enghraifft bu Craffu sylweddol ar y polisi ‘Peillio’ i sicrhau y caiff pryderon y cyhoedd eu trin ar gam cynnar.

• Hyrwyddo materion o gonsyrn lleol i breswylwyr a datblygu polisi newydd y Cyngor. Enghraifft: Arweinodd pryderon y cyhoedd am or-yrru ar ffordd B yn Sir Fynwy at i grŵp Aelodau archwilio ‘Terfynau Cyflymder Traffig’ ar draws y sir, gan weithio gyda’r Heddlu i adolygu’r polisi.

• Bod yn ‘gyfaill beirniadol’ drwy holi sut y gwnaed penderfyniadau a ‘gwirio a chydbwyso’ ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau. Enghraifft: Cafodd penderfyniad i gau cyfleuster yn darparu gwasanaethau i oedolion gydag anableddau dysgu ei graffu’n gadarn. Roedd craffu yn gyfrwng lle gallai defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid allweddol gyfarch gwneuthurwyr penderfyniadau. Fe wnaeth y Pwyllgor ddadansoddii a chefnogi achos busnes a baratowyd gan staff sy’n rhoi datrysiad arloesol a alluogodd y cyfleuster i barhau ar agor.

• Sicrhau bod Sir Fynwy yn perfformio hyd eithaf ei gallu ac yn darparu gwasanaethau ansawdd uchel i’r cyhoedd. Enghraifft: Ymwelodd Craffu â thoiledau cyhoeddus ar draws Sir Fynwy a dynodi diffygion difrifol yn y gwasanaethau a ddarperir. Argymhellodd Craffu welliannau i rai cyfleusterau, cau eraill a throsglwyddo cyfrifoldeb am gynnal a chadw rhai cyfleusterau i sefydliadau eraill, gan arbed adnoddau i’r Cyngor.

• Cysylltu gyda’r cyhoedd i ddatblygu polisïau a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd. Er enghraifft: heriodd Craffu yr achos busnes i uno Canolfannau Croeso ac Amgueddfeydd yn y pedair prif dref. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiwn ‘beth sy’n bwysig?’ yn eu cymunedau. Rhoddodd Craffu ddull i’r cyhoedd gymryd rhan yn y dilema cyllideb a sicrhau y rhoddwyd ystyriaeth i anghenion pwrpasol trefi lleol Sir Fynwy.

Sut y gallaf ganfod mwy?

Mae’r Llawlyfr Craffu yn rhoi esboniad ymarferol o swyddogaeth Craffu. I gael gwybodaeth fwy manwl ar sut mae’r broses Craffu yn gweithredu, gweler protocol Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol neu Gyfansoddiad y Cyngor.