Skip to Main Content

Os hoffech chi weithredu gwaith o fewn dyfrffos efallai bydd angen caniatâd oddi wrth yr awdurdod priodol. Mae hyn yn dibynnu ar os yw’r ddyfrffos wedi’i nodi fel prif afon neu ddyfrffos gyffredinol a’r math o waith yr ydych yn ei weithredu. Os yw’r ddyfrffos wedi’i nodi fel prif afon bydd angen i chi ymgeisio am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru. Os taw dyfrffos gyffredinol yw hi mae angen i chi ymgeisio am Ganiatâd Dyfrffos Gyffredinol o Gyngor Sir Fynwy (neu o Gyfoeth Naturiol Cymru os yw o fewn Ardal Draenio Mewnol). Mae yna fap sy’n dangos prif afonydd ar gael ar y we o Gyfoeth Naturiol Cymru.

Beth yw Dyfrffos Gyffredinol?

Diffinnir dyfrffos gyffredinol fel dyfrffos nad yw’n brif afon, sy’n cynnwys afonydd, nentydd, draeniau a ffosydd, a thramwyfeydd y mae dŵr yn llifo trwyddynt.

Pam oes angen Caniatâd Dyfrffos Gyffredinol?

Mae angen rheoleiddio er mwyn lleihau perygl llifogydd ac i sicrhau nad oes mwy o berygl llifogydd ar safle penodol, gan osgoi unrhyw effaith niweidiol ar bobl a’r amgylchedd. Mae’r broses yn cynnwys cyflwyno caniatâd am waith derbyniol a gweithredu camau gorfodi lle bo’n briodol er mwyn mynd i’r afael â gweithgareddau annerbyniol.

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni cyn ymgeisio am ganiatâd fel bod modd i ni drafod eich anghenion, i gynnig cyngor ac i sicrhau bod eich cais yn ddilys ac wedi’i gwblhau’n gywir.

Dim ond ychydig fathau o waith, dan y Ddeddf Draenio Tir 1991, sydd angen caniatâd megis newid melyn, argae, cored neu unrhyw geuffos sy’n debygol o effeithio llif y dŵr. Efallai bydd angen caniatâd ar waith parhaol a dros dro sy’n effeithio llif dyfrffos.

Gwybodaeth Bellach