Skip to Main Content

Yn ogystal â’r meysydd parcio oddi ar y stryd, rydym hefyd yn gyfrifol am orfodi’r holl gyfyngiadau ar-y-stryd, megis:

  • Llinellau melyn dwbl a sengl
  • Lleoedd parcio bathodynnau glas (lleoedd i’r anabl)
  • Lleoedd aros cyfyngedig
  • Rhengoedd tacsi
  • Lleoedd dadlwytho
  • Marciau igam ogam ger ysgolion (os yw cyfyngiadau’n berthnasol) a chroesfannau i gerddwyr
  • Parcio dwbl (parcio rhy bell o’r cwrbyn)
  • Lleoedd cardiau parcio preswyl

Rydym hefyd yn gallu gorfodi cerbydau sy’n parcio ar draws cyrbau isel lle mae pwynt croesi a phalmant botymog.

Gallwch roi gwybod am barcio anghyfreithlon drwy gwblhau adroddiad gorfodi parcio drwy gyfrwng Fy Sir Fynwy. Cyfeirir pob adroddiad i’n swyddogion gorfodi sifil a fydd yn ymateb gydag unrhyw gamau a chanfyddiadau a gymerir ar batrolau. Os hoffech chi gofnodi adroddiad gorfodi parcio a fyddech gystal â chlicio yma

Bydd yr heddlu yn dal i fod yn gyfrifol am ddelio gydag unrhyw gyfyngiadau parcio a osodir ar:

  • gangen yr M4 i / o Gaerdydd tuag at Ail Groesfan Hafren;
  • gangen yr M4 i Gas-gwent a Chroesfan;
  • yr A40, yn cysylltu Blaenau’r Cymoedd gyda’r Fenni a pharhau tuag at Henffordd;
  • yr A465, yn cysylltu Blaenau’r Cymoedd gyda’r Fenni a pharhau tuag at Henffordd;
  • yr A449, yn cysylltu Casnewydd gyda’r A40 tuag at Drefynwy a’r M50;
  • yr A4042, yn cysylltu Casnewydd gyda’r Fenni;
  • yr A48 / yr A466, o’r M48 drwy Gas-gwent i ffin Lloegr.

Bydd yr heddlu yn parhau i fod yn awdurdod gorfodi ar gyfer ystyried a delio ag unrhyw faterion yn ymwneud â pharcio nad ydynt yn cael eu cefnogi gan gyfyngiad parcio megis, cerbydau’n parcio’n rhwystrol ac / neu’n beryglus ar neu o gwmpas cyffyrdd neu ar neu dros y droedffordd. Mae’r heddlu hefyd yn gyfrifol am unrhyw droseddau traffig sy’n symud h.y.

gorchmynion Mynediad yn Unig, Goryrru, Dim Mynediad. Gallwch roi gwybod i’r heddlu am y materion hyn drwy alw 101.