Skip to Main Content

Bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd yn ystyried y dyletswyddau canlynol

• Adran 62 – Dyma ein dyletswydd i asesu eich anghenion tai – Bydd yr asesiad hwn yn cadarnhau a ydych yn gymwys ac a ydych yn debygol o fod yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Fe fyddwn yn siarad â chi ynglŷn â pham yr ydych chi’n ddigartref, unrhyw anghenion cymorth sydd gennych chi neu’r teulu a beth hoffech chi iddo ddigwydd. Bydd yr asesiad hwn yn eich cynorthwyo chi a’r swyddog i ystyried a chytuno ar gamau rhesymol i atal neu leihau digartrefedd. Dyma eich Cynllun Tai Personol.

• Adran 66 – Dyma ein dyletswydd i atal digartrefedd – Bydd camau gweithredu ar eich Cynllun Tai Personol yn cael ei wneud gennych chi a’ch Swyddog Atal Digartrefedd er mwyn eich atal rhag mynd yn ddigartref. Gallwn ddod â’r ddyletswydd hon i ben am nifer o resymau, gan gynnwys: os nad ydych dan fygythiad o ddigartrefedd bellach, eich bod yn ddigartref nawr neu eich bod wedi methu â chydweithredu gyda’r cynllun tai personol a gytunwyd i atal digartrefedd.

• Adran 73 – Dyma ein dyletswydd i liniaru ar eich digartrefedd – os ydych yn ddigartref nawr, neu os nad yw’r hyn a wnaed i atal digartrefedd wedi gweithio, byddwn yn dal i weithio gyda chi am hyd at 56 diwrnod i gynorthwyo i atal eich digartrefedd. Gall hyn gynnwys darparu llety mewn argyfwng. Bydd hynny’n dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Mae nifer o ddulliau i gyflawni’r ddyletswydd hon, gan gynnwys: fod popeth sy’n bosib wedi’i wneud, nid ydych yn ddigartref bellach, eich bod wedi methu â chydweithredu gyda’r cynllun tai personol a gytunwyd i liniaru ar eich digartrefedd.

• Dyletswydd Adran 68 – Dyma ein dyletswydd i ddarparu llety argyfwng i’r rhai hynny sy’n gymwys, yn ddigartref ac sy’n ymddangos fod ganddynt angen blaenoriaeth am gartref.

• Dyletswydd Adran 75 – Dyma ein dyletswydd i sicrhau llety ar eich cyfer – hon yw ein dyletswydd derfynol ac absoliwt ar gyfer ymgeiswyr sy’n gymwys, yn ddigartref, sydd ag angen blaenoriaethol am gartref ac yn ddigartref yn anfwriadol ac â chysylltiad lleol â Sir Fynwy.

Beth os ydw i’n anghytuno â’ch penderfyniad?

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad sydd wedi’i wneud, neu addasrwydd y llety a gynigir i chi, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad. Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ofyn am adolygiad yn cael ei hanfon atoch gyda’ch llythyr penderfyniad. Bydd angen i chi anfon eich cais o fewn 21 diwrnod ar ôl i chi dderbyn eich llythyr penderfyniad, neu’ch llythyr yn cynnig llety. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan berson annibynnol a fydd mewn rôl uwch na’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad gwreiddiol ac sydd heb fod yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol ar eich achos.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud fel arfer o fewn 8 wythnos i ddyddiad y cais am adolygiad ond rhagwelir y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn hyn. Byddwch chi, neu gynrychiolydd ar eich rhan, yn cael gwahoddiad i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth bellach yr ydych yn dymuno i’r swyddog adolygu eu hystyried.

Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig.

Rhif ffôn:· Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Oriau argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644