Skip to Main Content

Mewn tywydd gwael mae nifer o opsiynau sydd ar gael i helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd. 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda nifer o sefydliadau ac asiantaethau i gefnogi pobl sy’n ddigartref ac yn cysgu mas yn Sir Fynwy. 

Os gwyddoch am rywun a all fod yn cysgu ar y stryd, cysylltwch â Chyngor Sir Fynwy os gwelwch yn dda i adael i ni wybod lle maen nhw a’n helpu i gydlynu ymateb. Gallwch ein hysbysu yn y ffyrdd dilynol: 

  1. Ffonio’r Cyngor ar 01633 644644. 
  1. Cysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai drwy unrhyw un o’r Hybiau Cymunedol. 
  1. Rhoi adroddiad am yr wybodaeth drwy wefan neu ap Street Link.  

Byddwn wedyn yn cydlynu ymateb gyda’n partneriaid cefnogi. 

Gall fod amrywiaeth o resymau pam fod rhywun yn ddigartref ac yn cysgu ar y stryd, gofynnwn i chi barchu eu gofod a phreifatrwydd ac osgoi rhoi gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan y gall hyn yn anfwriadol eu gwneud yn agored i risgiau. 

Er y croesewir eich cefnogaeth, gofynnir i chi fod yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun a diogelwch y person sy’n cysgu ar y stryd.