Skip to Main Content

Gall unigolyn fod yn gymwys am fathodyn glas heb fod angen asesiad os ydynt yn derbyn y Budd-daliadau Anabledd dilynol neu os oes ganddynt nam ar eu golwg.

  • Cydran Cyfradd Uwch Symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl (HRMCDLA).

Bydd angen i chi ddangos y llythyr dyfarnu a ddyddiwyd o fewn y 12 mis diwethaf.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar y lefel gofynnol

  • 12 pwynt am Gynllunio a Dilyn Taith
  • 8 pwynt neu fwy am Symud o Gwmpas

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r llythyr dyfarnu dyddiedig o fewn y 12 mis diwethaf yn dangos am ba mor hir y mae Taliad Annibyniaeth Bersonol wedi’i ddyfarnu a faint o bwyntiau a ddyfarnwyd. Sylwch na allwn ddyfarnu bathodyn glas yn seiliedig ar sgôr cyfun o’r Disgrifydd Symud o Gwmpas a’r disgrifydd Cynllunio a Dilyn Taith. Os na fydd ymgeisydd yn cyrraedd y sgôr gofynnol ar gyfer y naill neu’r llall o’r uchod ni fydd yr ymgeisydd yn cymhwyso o dan y maen brawf awtomatig hwn.

  • Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel (nid pensiwn anabledd rhyfel).
  • Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog (AFCS). Dyfarnwyd cyfandaliad budd-dal i chi dan dariffau 1-8 ac ardystiwyd bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy’n achosi anabledd neu anhawster sylweddol iawn i gerdded.
  • Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog (AFCS). Dyfarnwyd tariff 6 i chi – Anhwylder Meddwl Parhaol.
  • Wedi cofrestru fel bod â nam difrifol ar eich golwg/dall neu fod gennych Dystysgrif Nam ar eich Golwg (CVI) yn nodi fod gennych nam difrifol ar eich golwg. Nid yw pobl gyda golwg rhannol yn cymhwyso’n awtomatig am fathodyn glas.

Meini Prawf ar Ddisgresiwn

Os nad ydych yn derbyn y budd-daliadau uchod, gallech gymhwyso dan y meini prawf ar ddisgresiwn os gellir dangos tystiolaeth i gefnogi.

ANABLEDD DIFRIFOL YN Y DDWY FRAICH

Person sydd oherwydd yr anabledd hwn yn cael anhawster sylweddol neu’n methu gweithredu pob neu rai mathau o fesurydd parcio. Dim ond pan mai nhw yw’r gyrrwr y gellir defnyddio’r bathodyn yma.

  • Pobl sy’n rheolaidd yn gyrru cerbyd heb ei addasu ond sy’n methu gweithredu neu’n cael anhawster gweithredu mesuryddion parcio neu offer talu ac arddangos oherwydd amhariadau difrifol yn y ddwy fraich – er enghraifft anableddau’n gysylltiedig â Thalidomide. Yn yr amgylchiadau hyn, cyhoeddir bathodyn glas ar ddisgresiwn yr awdurdod lleol. Gallai tystiolaeth gynnwys trwydded yrru gyda chod 40 (llywio wedi’i addasu) neu 79 (cerbydau gyda manylebau).
  • Os oes gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich, yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd ond yn methu troi’r llyw gyda llaw hyd yn oed os oes nobyn troi arno. Gallai tystiolaeth gynnwys trwydded yrru gyda chod 40 (llywio wedi’i addasu) neu 79 (cerbydau gyda manylebau).

AG ANABLEDD PARHAOL A SYLWEDDOL SY’N ACHOSI ANALLU I GERDDED NEU ANHAWSTER SYLWEDDOL IAWN YN CERDDED

  • Person drwy ddwy oed sydd ag anabledd parhaol a sylweddol. Mae hyn yn golygu eu bod yn methu cerdded neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded. Maent angen cymhorthion cerdded neu hyd yn oed ocsigen i gerdded pellter byr megis hanner hyd cae pêl-droed.

AMHARIAD GWYBYDDOL DIFRIFOL

  • Person sy’n methu cynllunio a dilyn taith oherwydd amhariad gwybyddol ac sydd angen help rhywun eraill. Enghreifftiau o hyn yw Awtistiaeth, Dementia, problem Iechyd Meddwl, Anafiadau Pen ac yn y blaen ac angen help rhywun arall. Dylai tystiolaeth gynnwys un o’r dilynol:
  • Cofrestru ar gofrestr anableddau dysgu yr awdurdod lleol
  • Llythyr apwyntiad gan glinig cof
  • Llythyr gan swyddog gofal iechyd yn ymwneud â’ch triniaeth.

SALWCH TERFYNOL SY’N CYFYNGU’N DDIFRIFOL AR SYMUDEDD

  • Tystiolaeth – ffurflen SR1 a llythyr cefnogi gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd tebyg i Nyrs Macmillan, Tenovus neu Dewi Sant sy’n nodi sut y mae’r salwch wedi arwain at lai o symudedd. Os na fedrir darparu SR1 dylid ystyried cais ar ddisgresiwn gyda thystiolaeth i gefnogi.

Yn yr amgylchiadau hyn, caiff bathodynnau glas eu cyhoeddi ar ein disgresiwn.

Ni fyddwch yn cymhwyso am fathodyn os:

  • Nad ydych yn cyflawni unrhyw un o’r meini prawf a restrir uchod.
  • Dim ond pan wrth gario eitemau megis siopa yr ydych yn cael problemau cerdded.