Skip to Main Content

MAE’N DROSEDD CAMDDEFNYDDIO BATHODYN GLAS 

Pethau pwysig i’w cofio: 

  • Mae’n rhaid i chi fod yn deithiwr neu’n yrrwr y cerbyd bob amser pan ddangosir Bathodyn Glas.  
  • Peidiwch gadael i neb arall ddefnyddio eich bathodyn i gael parcio am ddim neu barcio mewn lle gwell.  
  • Ni all gofalwyr, teulu na ffrindiau ddefnyddio’r bathodyn hyd yn oed pan maent yn gwneud busnes ar eich rhan.  
  • Peidiwch â defnyddio’r bathodyn pan mae ei ddyddiad wedi dod i ben.  
  • Peidiwch â defnyddio’r bathodyn pan mae’r wybodaeth arno yn anghywir neu’n amhosibl ei ddarllen, er enghraifft os yw wedi colli ei liw.  
  • Peidiwch copïo neu adael i neb arall gopïo eich bathodyn. 
  • Mae’n drosedd i chi neu berson arall gamddefnyddio Bathodyn Glas, a gall fod dirwy o hyd at £1000 a diddymu’r bathodyn ar unwaith.  
  • Gall swyddogion gorfodaeth parcio atafaelu cerdyn os ydynt yn credu’n rhesymol ei fod yn cael ei gamddefnyddio neu’n ffug, os yw wedi dod i ben, eisoes wedi ei ganslo neu y dylid fod wedi ei ddychwelyd. 

Adrodd camddefnydd Bathodyn Glas  

Mae’r bathodynnau arddull newydd yn gysylltiedig gyda chronfa ddata o ddefnyddwyr cymwys yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer haws i’r heddlu, wardeiniaid parcio a swyddogion gorfodaeth unrhyw le yn y wlad i ddilysu os yw bathodyn yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ai peidio. 

Cysylltwch â ni os ydych yn amau fod bathodyn glas yn cael ei gamddefnyddio. Caiff pob adroddiad ei drin yn gyfrinachol.I fedru ymchwilio, ceisiwch gael cynifer o fanylion ag sydd modd o’r bathodyn a ddangosir (rhif cyfres, dyddiad dod i ben ac yn y blaen) i’n helpu i ymchwilio a gweithredu os dangosir y cafodd y bathodyn ei gamddefnyddio 

 I’ch helpu gyda’ch adroddiad mae nifer o wahanol fathau o dwyll neu gamddefnyddio bathodyn glas. 

 Camddefnydd gan ddeiliad y bathodyn 

  • Defnyddio bathodyn nad yw’n ddilys mwyach. 
  • Defnyddio bathodyn yr adroddwyd ei fod wedi ei golli neu ei ddwyn. 
  • Defnyddio bathodyn y mae’r Awdurdod Lleol wedi gofyn iddo gael ei ddychwelyd. 
  • Gadael i gyfaill neu berthynas ddefnyddio’r bathodyn. 
  • Defnyddio copi o fathodyn. 
  • Newid y manylion ar y bathodyn, er enghraifft, y dyddiad dod i ben. 
  • Gwneud cais twyllodrus (rhoi gwybodaeth heb fod yn wir ar y cais) neu ddefnyddio bathodyn a gafwyd drwy dwyll. 

 Camddefnyddio gan drydydd parti 

  • Defnyddio bathodyn rhywun arall (gyda neu heb wybodaeth deiliad y bathodyn) heb i ddeiliad y bathodyn fod yn bresennol  
  • Defnyddio bathodyn sy’n eiddo rhywun arall sydd wedi marw  
  • Copïo, newid neu wneud bathodynnau  
  • Defnyddio bathodyn a gafodd ei ddwyn 
  • Defnyddio bathodyn ffug