Skip to Main Content

Gellir cyhoeddi Bathodyn Glas Sefydliad i sefydliad sydd: 

  • yn gofalu am ac yn cludo pobl anabl a fyddai’n cyflawni un neu fwy o’r meini prawf cymhwyster am fathodyn glas unigol 
  • ag angen clir am fathodyn sefydliad yn hytrach na defnyddio’r Bathodynnau Glas personol neu bobl y mae’n eu cludo. 

Ym mhob amgylchiadau, rhoddir bathodynnau i sefydliadau i adrannau yn hytrach nag i aelodau unigol o staff. 

Dylid atgoffa holl staff y sefydliad fydd yn defnyddio’r bathodyn mai dim ond ar gyfer defnyddio’r bathodyn ar gyfer dibenion cludo pobl anabl yn eu gofal sy’n cyflawni un neu fwy o’r meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn y dylid defnyddio’r bathodyn. Dylid atgoffa’r aelodau hynny o staff, os ydynt yn defnyddio’r bathodyn, i fanteisio ar y consesiynau pan nad oes unrhyw deithwyr yn y cerbyd sy’n gymwys am fathodyn y byddent yn wynebu dirwy o hyd at £1,000. 

Bydd bathodyn sefydliad yn dangos logo’r sefydliad ar y cefn, yn hytrach na ffotograff. Dim ond pan mae aelodau staff y sefydliad yn defnyddio cerbyd wedi cofrestru yn gollwng neu godi pobl anabl cymwys o fan parcio y dylid dangos y bathodyn. 

Mae’n annhebyg y byddai gweithredwyr tacsi neu hur preifat a chludiant cymunedol yn gymwys am Fathodyn Glas Sefydliad gan nad ydynt fel arfer yn ymwneud gyda gofal pobl anabl a fyddai’n cyflawni un neu fwy o’r meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn. Gall gweithredwyr o’r fath ddefnyddio Bathodyn Glas unigol wrth gario’r person hynny fel teithiwr. 

Cyhoeddir bathodynnau glas sefydliad am gyfnod o dair blynedd. Os yw sefydliad yn rhoi’r gorau i weithredu neu nad yw mwyach yn cludo pobl sy’n diwallu’r meini prawf cymhwyster, mae’n rhaid iddo ddychwelyd pob bathodyn i’r awdurdod lleol.