Skip to Main Content

Gall unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os ydynt yn cael adferiad o, neu’n disgwyl triniaeth ar gyfer salwch neu anafiadau difrifol. 

Enghreifftiau o hyn yw: 

  • Adfer o doriadau cymhleth i goes fel y rhai a gaiff eu rheoli gyda gosodwyr allanol am gyfnodau ymhell dros flwyddyn. 
  • Adfer o strôc neu anaf pen sy’n effeithio ar y gallu i symud. 
  • Adfer o drawma i asgwrn y cefn sy’n effeithio ar y gallu i symud. 
  • Derbyn triniaeth feddygol e.e. ar gyfer canser, sy’n effeithio ar y gallu i symud. 
  • Adfer o neu’n disgwyl cael cymal newydd e.e. clun, glin, sy’n effeithio’n ddifrifol ar y gallu i symud. 

Mewn achosion lle mae’n glir na fydd y nam ar yr ymgeisydd yn gwella o fewn 12 mis, ni chyhoeddir Bathodyn Glas. 

Tystiolaeth o Gymhwyster 

Mae’r cymhwyster am Fathodyn Glas dros dro yn seiliedig ar i’r ymgeisydd fod yn methu cerdded neu’n cael anhawster sylweddol yn cerdded.

Mae angen tystiolaeth gan arbenigwyr fel: 

  • Timau ailalluogi  yr ysbyty sy’n ymwneud â gofal y cleient 
  • Gwasanaethau cymdeithasol Awdurdod Lleol sy’n cynorthwyo gydag adferiad y claf 
  • Swyddogion iechyd sy’n darparu gwasanaethau arbenigol