Skip to Main Content

Os penderfynwch symud eich plentyn/plant rhwng ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen llenwi Ffurflen Gais Trosglwyddo o Fewn y Flwyddyn ar gyfer pob plenty.

Byddwn yn cydnabod eich cais o fewn pum diwrnod gwaith ac yn ymdrechu i brosesu eich cais o fewn saith diwrnod gwaith. Fodd bynnag, ar rai adegau o’r flwyddyn megis dechrau blwyddyn academaidd newydd neu ddechrau tymor, gallwn gymryd ychydig mwy o amser gyda’ch ffurflen.

Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer derbyniadau ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ar gyfer trosglwyddo i flwyddyn derbyn, rhwng ysgol babanod ac ysgol iau neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

Beth os wyf yn symud i fyw?

Os ydych yn symud i’r ardal ac angen gwneud cais i’ch plentyn ddechrau ysgol newydd, byddwn angen mwy o wybodaeth.

Bydd angen i ni weld tystiolaeth o’ch cyfeiriad newydd gan fod rhai agweddau pwysig o’n polisïau derbyn a chludiant yn dibynnu ar beth yn union yw eich cyfeiriad cartref.

Bydd angen i chi anfon un o’r dilynol atom cyn y gellir ystyried eich cais:

  • Hysbysiad ysgrifenedig am gyfnewid contractau gan y cyfreithiwr sydd yng ngofal eich pryniant eiddo
  • Cadarnhad ysgrifenedig o gytundeb rhentu ar gyfer eich cartref newydd
  • Bil cyfleustod/llythyr banc yn cadarnhau eich bod yn byw yn y cyfeiriad newydd adeg gwneud y cais

Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â:

accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644508