Ansawdd aer cyfredol

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar ansawdd aer cyfredol ledled Cymru, yn cynnwys Sir Fynwy, ar gael ar wefan ansawddaer Cymru.
Diddymu Ardal Rheoli Ansawdd Aer Brynbuga
Yn dilyn gostyngiad llwyddiannus a chynaliadwy mewn llygredd aer yn Stryd y Bont ym Mrynbuga, mae Cyngor Sir Fynwy wedi dirymu’r Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARAA) yno, yn weithredol o’r 5ed Mehefin 2026.
Mae’r Gorchymyn Dirymu ar gael i’w weld yn y rhestr o adroddiadau sydd ar gael ymhellach i lawr y dudalen hon.
Rheoli ansawdd aer lleol
Mae Iechyd yr Amgylchedd yn monitro lefelau llygrwyr aer i asesu ansawdd aer cyfredol a’r dyfodol. Defnyddir yr wybodaeth hon i benderfynu os ydym yn cyflawni amcanion ansawdd aer Strategaeth Genedlaethol Ansawdd Aer y Deyrnas Unedig. Mae’r strategaeth yn anelu i wella ansawdd aer yn seiliedig ar ostwng crynoadau o saith llygrydd allweddol.
Rydym ni’n gyfrifol am weithredu’r strategaeth yma a byddwn yn gweithio gyda phobl leol, masnach, diwydiant, grwpiau amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Caiff saith llygrydd eu rhestru mewn deddfwriaeth sy’n dod dan y System Rheoli Ansawdd Aer Lleol ac mae gan bob un ohonynt lefelau amcan ansawdd aer na ddylid eu torri.
Adolygu ac Asesu Ansawdd Aer lleol
Mae monitro blaenorol wedi nodi mai’r unig lygrydd sydd mewn perygl o gynyddu yn y sir yw nitrogen deuocsid o allyriadau cerbydau. O’r herwydd, mae’r rhan fwyaf o’r monitro yn cael ei wneud ar hyd y rhwydweithiau ffyrdd sy’n rhedeg yn agos at dderbynyddion sensitif fel tai, ysgolion, ysbytai, ac ardaloedd eraill lle gall pobl ymgynnull fel canolfannau siopa a pharciau.
O ganlyniad i’r monitro, mae dwy ardal yn y sir wedi rhagori ar y lefel amcan nitrogen deuocsid yn y gorffennol ac felly fe’u neilltuwyd yn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer.
Dyma Stryd y Bont ym Mrynbuga a rhan o’r A48 yng Nghas-gwent sy’n cynnwys Bryn Hardwick. Mae gan y ddau ARhAA hyn Gynlluniau Gweithredu, ac mae dolen iddynt ar gael isod.
Nid yw Ardal Rheoli Ansawdd Aer Brynbuga wedi rhagori ar y lefel amcan ers 2015, ac o ganlyniad, dirymodd Cyngor Sir Fynwy yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar 5ed Mehefin 2026. Gellir gweld y gorchymyn dirymu yn y rhestr o adroddiadau sydd ar gael.
Nid yw Ardal Rheoli Ansawdd Aer Cas-gwent wedi rhagori ar y lefel amcan ers 2020, ac felly mae’n debygol y gellir dirymu’r Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Ardaloedd Rheolaeth Ansawdd Aer
Mae monitro blaenorol wedi dynodi mai’r unig lygrydd sydd mewn risg o gael ei dorri o fewn y sir yw nitrogen deuocsid o allyriadau cerbydau. O’r herwydd, caiff y rhan fwyaf o’r monitro ei wneud ar hyd y rhwydweithiau ffordd sy’n rhedeg yn agos ar dderbynwyr sensitif fel tai, ysgolion, ysbytai ac ardaloedd lle gall pobl ymgynnull megis canolfannau siopa a pharciau.
Fel canlyniad i’r monitro mae dwy ardal yn y sir sydd wedi rhagori ar lefel amcan nitrogen deuocsid yn y gorffennol ac a gafodd wedyn eu datgan yn Ardaloedd Rheolaeth Ansawdd Aer. Yr ardaloedd hyn yw Stryd y Bont ym Mrynbuga a rhan o’r A48 yng Nghas-gwent sy’n cynnwys Rhiw Hardwick. Mae gan y ddwy AQMA yma Gynlluniau Gweithredu, ac mae dolen ar gael iddynt islaw.
Rhestr o’r adroddiadau sydd ar gael
- Usk Air Quality Management Area Revocation Order 2026
- 2024 Adroddiad Cynnydd Blynyddol Ansawdd Aer
- 2023 Adroddiad Cynnydd Blynyddol Ansawdd Aer
- 2020 Adroddiad Cynnydd Blynyddol Ansawdd Aer
- 2019 Adroddiad Cynnydd Blynyddol Ansawdd Aer
- 2018 Adroddiad Cynnydd Blynyddol Ansawdd Aer
- 2017 Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer
- 2016 Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer
- 2015 Astudiaeth Ansawdd Aer Amgylchynol yn Nhrefynwy
- 2015 Asesiad Ansawdd Aer Diweddaru a Sgrinio
- 2014 Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer
- 2013 Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer
- 2012 Asesiad Diweddaru a Sgrinio Ansawdd Aer
- 2011 Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer
- Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Brynbuga
- Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Cas-gwent
Tiwbiau taenu nitrogen deuocsid
Mae tiwbiau taenu yn fach a chymharol rad ac nid ydynt angen cyflenwed pŵer, felly gallwn eu gosod ar byst lamp a thai mewn llawer o leoliadau yn Sir Fynwy i adeiladu rhwydwaith monitro da yn agos at lle mae pobl yn byw. Mae nitrogen deuocsid yn yr aer yn mynd i’r tiwbiau ac yn cael eu hamsugno i hidlydd. Mae swyddog yn newid y tiwbiau bob mis a chânt eu dadansoddi mewn labordy.
Ar hyn o bryd mae 41 o safleoedd monitro tiwbiau taenu yn Sir Fynwy yn y Fenni, Trefynwy, Brynbuga a Chas-gwent. Rydym yn flaenorol wedi cymryd rhan yn Rhaglan, Magwyr a Gwndy, fodd bynnag gan fod y lefelau hyn yn is na’r lefelau amcan cafodd y tiwbiau eu symud i leoliadau mewn mwy o risg.
Monitro awtomatig
Mae monitro awtomatig yn ffordd ddrutach ond fwy cywir i fesur ansawdd aer. Ar hyn o bryd mae gennym un orsaf fonitro awtomatig yn Rhiw Hardwick yng Nghas-gwent. Gall yr uned yma fonitro nifer o lygryddion yn barhaus. Gellir canfod data cyfredol ar ansawdd daer gan yr orsaf fonitro awtomatig yng Nghas-gwent ar wefan Ansawdd Aer Cymru a dewis Cas-gwent o’r map.
Mae tri dadansoddwr yn yr orsaf fonitro sy’n monitro llygrwyr allweddol allyriadau cerbydau:
Nitrogen deuocsid a nitrig ocsid
PM10 (gronynnau bach gyda diamedr llai na 10 µm)
PM2.5 (gronynnau bach gyda diamedr llai na PM2.5)
Caiff nitrogen deuocsid ei fonitro gan ddadansoddydd cemoleuol a chaiff PM10 a PM2.5 eu mesur gyda dadansoddwyr TEOM-FDMS. Mae’r monitorau yn galluogi cymhariaeth gydag amcanion blynyddol, 24 awr ac awr.
Addasu tueddiad data tiwb nitrogen deuocsid
Gan fod y monitor awtomatig nitrogen deuocsid yn fwy cywir na’r tiwbiau taenu cynhaliwn astudiaeth cyd-leoli drwy osod tiwb taenu yn ymyl monitor awtomatig Cas-gwent. Gall canlyniadau tiwb taenu wedi ei addasu i roi cyfrif am y gwahaniaeth. I wneud y tiwbiau yn fwy cywir rydym hefyd yn defnyddio data o gynghorau eraill sy’n cynnal astudiaethau cyd-leoli ar draws y Deyrnas Unedig.