Skip to Main Content

Ansawdd aer cyfredol

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar ansawdd aer cyfredol ledled Cymru, yn cynnwys Sir Fynwy, ar gael ar wefan ansawdd aer Cymru.

Rheoli ansawdd aer lleol

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn monitro lefelau llygrwyr aer i asesu ansawdd aer cyfredol a’r dyfodol. Defnyddir yr wybodaeth hon i benderfynu os ydym yn cyflawni amcanion ansawdd aer Strategaeth Genedlaethol Ansawdd Aer y Deyrnas Unedig. Mae’r strategaeth yn anelu i wella ansawdd aer yn seiliedig ar ostwng crynoadau o saith llygrydd allweddol.

Rydym ni’n gyfrifol am weithredu’r strategaeth yma a byddwn yn gweithio gyda phobl leol, masnach, diwydiant, grwpiau amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Caiff saith llygrydd eu rhestru mewn deddfwriaeth sy’n dod dan y System Rheoli Ansawdd Aer Lleol ac mae gan bob un ohonynt lefelau amcan ansawdd aer na ddylid eu torri.

Adolygu ac Asesu Ansawdd Aer lleol:

Mae adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal adolygiad ac asesiad o ansawdd aer y sir drwy gynnal gwaith monitro mewn lleoliadau penodol, a allai fod mewn perygl o gael lefelau uchel o lygredd.

Caiff y data hwn ei gasglu a’i ddadansoddi ac wedyn ei gyhoeddi ar y wefan hon bob blwyddyn mewn Adroddiad Cynnydd Blynyddol. Yr adroddiad Cynnydd Blynyddol cyfredol yw rhifyn 2023, sy’n cyflwyno’r data monitro ar gyfer mis Ionawr i fis Rhagfyr 2022. Mae dolen i’r adroddiad ar gael yn y RHESTR O ADRODDIADAU SYDD AR GAEL, ymhellach lawr y dudalen hon.

Gellir datgan Ardal Rheolaeth Ansawdd Aer (AQMA) lle mae monitro blynyddol a gwybodaeth leol yn dangos y caiff amcan ansawdd aer ei dorri’n gyson mewn lleoliad y mae’r cyhoedd yn agored iddo. Os oes angen, cyn datgan AQMA, gellir cynnal asesiadau mwy manwl megis modelu ansawdd aer ac astudiaeth dyrannu ffynhonnell i benderfynu os cafodd amcan ansawdd aer ei dorri a maint a’r rheswm dros y torri hwnnw.

Os datganwyd Ardal Rheolaeth Ansawdd Aer, mae’r cyngor yn paratoi Cynllun Gweithredu i ddynodi mesurau y gellir eu rhoi ar waith i geisio gwella ansawdd aer a sicrhau lefel yr amcan.

 

Ardaloedd Rheolaeth Ansawdd Aer

Mae monitro blaenorol wedi dynodi mai’r unig lygrydd sydd mewn risg o gael ei dorri o fewn y sir yw nitrogen deuocsid o allyriadau cerbydau. O’r herwydd, caiff y rhan fwyaf o’r monitro ei wneud ar hyd y rhwydweithiau ffordd sy’n rhedeg yn agos ar dderbynwyr sensitif fel tai, ysgolion, ysbytai ac ardaloedd lle gall pobl ymgynnull megis canolfannau siopa a pharciau.

Fel canlyniad i’r monitro mae dwy ardal yn y sir sydd wedi rhagori ar lefel amcan nitrogen deuocsid yn y gorffennol ac a gafodd wedyn eu datgan yn Ardaloedd Rheolaeth Ansawdd Aer. Yr ardaloedd hyn yw Stryd y Bont ym Mrynbuga a rhan o’r A48 yng Nghas-gwent sy’n cynnwys Rhiw Hardwick. Mae gan y ddwy AQMA yma Gynlluniau Gweithredu, ac mae dolen ar gael iddynt islaw.

Rhestr o’r adroddiadau sydd ar gael

Tiwbiau taenu nitrogen deuocsid

Mae tiwbiau taenu yn fach a chymharol rad ac nid ydynt angen cyflenwed pŵer, felly gallwn eu gosod ar byst lamp a thai mewn llawer o leoliadau yn Sir Fynwy i adeiladu rhwydwaith monitro da yn agos at lle mae pobl yn byw. Mae nitrogen deuocsid yn yr aer yn mynd i’r tiwbiau ac yn cael eu hamsugno i hidlydd. Mae swyddog yn newid y tiwbiau bob mis a chânt eu dadansoddi mewn labordy.

Ar hyn o bryd mae 41 o safleoedd monitro tiwbiau taenu yn Sir Fynwy yn y Fenni, Trefynwy, Brynbuga a Chas-gwent. Rydym yn flaenorol wedi cymryd rhan yn Rhaglan, Magwyr a Gwndy, fodd bynnag gan fod y lefelau hyn yn is na’r lefelau amcan cafodd y tiwbiau eu symud i leoliadau mewn mwy o risg.

Monitro awtomatig

Mae monitro awtomatig yn ffordd ddrutach ond fwy cywir i fesur ansawdd aer. Ar hyn o bryd mae gennym un orsaf fonitro awtomatig yn Rhiw Hardwick yng Nghas-gwent. Gall yr uned yma fonitro nifer o lygryddion yn barhaus. Gellir canfod data cyfredol ar ansawdd daer gan yr orsaf fonitro awtomatig yng Nghas-gwent ar wefan Ansawdd Aer Cymru a dewis Cas-gwent o’r map.

Mae tri dadansoddwr yn yr orsaf fonitro sy’n monitro llygrwyr allweddol allyriadau cerbydau:

Nitrogen deuocsid a nitrig ocsid

PM10 (gronynnau bach gyda diamedr llai na 10 µm)

PM2.5  (gronynnau bach gyda diamedr llai na PM2.5)

Caiff nitrogen deuocsid ei fonitro gan ddadansoddydd cemoleuol a chaiff PM10 a PM2.5 eu mesur gyda dadansoddwyr TEOM-FDMS. Mae’r monitorau yn galluogi cymhariaeth gydag amcanion blynyddol, 24 awr ac awr.

Addasu tueddiad data tiwb nitrogen deuocsid

Gan fod y monitor awtomatig nitrogen deuocsid yn fwy cywir na’r tiwbiau taenu cynhaliwn astudiaeth cyd-leoli drwy osod  tiwb taenu yn ymyl monitor awtomatig Cas-gwent. Gall canlyniadau tiwb taenu wedi ei addasu i roi cyfrif am y gwahaniaeth. I wneud y tiwbiau yn fwy cywir rydym hefyd yn defnyddio data o gynghorau eraill sy’n cynnal astudiaethau cyd-leoli ar draws y Deyrnas Unedig.