Y bwmpen gyffredin yw un o nodweddion amlycaf Calan Gaeaf. Caiff dros 10 miliwn o bwmpenni eu tyfu yn y DU, a bydd 95% ohonynt yn cael eu gwerthu i’w cerfio ar gyfer Calan Gaeaf. Maent yn addurniadau gwych, ond oeddech chi’n gwybod bod modd bwyta’r cnawd a’r hadau hefyd?
Gyda 42% o bobl yn prynu pwmpen yn y DU, bydd cyfanswm brawychus o 18,000 o dunelli o bwmpenni bwytadwy yn mynd i’r bin bob blwyddyn. Mae hynny’n pwyso yr un faint â 1,500 o fysiau deulawr!
Meddyliwch am yr holl dir ac egni sy’n cael ei ddefnyddio i dyfu a chludo ein pwmpenni bob blwyddyn, a hynny dim ond er mwyn iddi gael ei thaflu i’r bin. Mae’n frawychus.

Hoffi Calan Gaeaf, Casáu Gwastraff!
Llysieuyn llawn maeth yw pwmpen! Mae’n rhad, yn faethlon, yn flasus, yn tyfu ar raddfa fawr yn y DU a gellir ei choginio mewn sawl ffordd.
Os ydych am brynu pwmpen, dyma rai awgrymiadau gwych i chi gael eich gwerth am arian a lleihau gwastraff yr un pryd:
- Tynnwch y cnawd a’i ddefnyddio i wneud cawl, pastai, talpiau pwmpen a saws pasta blasus. Edrychwch ar y ryseitiau pwmpen hyn i gael ysbrydoliaeth! Bwyta eich pwmpen ac ymuno â’r ymgyrch i achub y bwmpen (hubbub.org.uk)
- Tynnwch yr hadau o’r bwmpen a’u rhostio i wneud byrbryd iachus neu gallwch eu rhoi mewn miwsli, smwddi, bara neu ar ben prydau sawrus i gael hwb llawn fitaminau a mwynau.
- Ar ôl Calan Gaeaf, torrwch eich pwmpen yn ddarnau bach – gweithgaredd gwych i blant – a’u rhoi yn y bin compost yn yr ardd. Bydd darnau llai yn pydru’n gynt na darnau mawr.
- Neu gallwch ei rhoi yn neu ar ben y bin gwastraff bwyd. Gellir ei defnyddio i greu egni a gwrtaith ar gyfer amaethyddiaeth. Nid oes rhaid ei thorri ar gyfer hyn.
Mae pob pwmpen sy’n cael ei bwyta gam yn nes at fynd i’r afael â’r 7.1 miliwn tunnell o fwyd a diod sy’n cael ei daflu o gartrefi’r DU bob blwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am leihau gwastraff Calan Gaeaf eleni ac ar ôl hynny, ewch i’n tudalennau Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yma Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff