Skip to Main Content

Beth sy’n newydd?
Gall preswylwyr nawr ail-ddefnyddio eu hen fagiau plastig megis bagiau bara, bagiau bwyd wedi’u rhewi a bagiau grawnfwyd fel leinin yn eu cadis gwastraff bwyd.

Pa fath o fagiau ddylwn eu defnyddio?
Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, defnyddiwch fagiau gwastraff bwyd a ddarperir gan yr awdurdod (naill ai’r bagiau startsh neu’r bagiau plastig newydd sydd i fod yn lle’r rhai startsh yn fuan iawn).

Os digwydd i breswylydd rhedeg allan, gallant ail-ddefnyddio hen fagiau plastig. Mae enghreifftiau addas yn cynnwys bagiau bara, bagiau brechdanau/rhewgell neu fagiau siopa denau (peidiwch â defnyddio’r bagiau trwchus ‘bag am oes’).

Dylai preswylwyr osgoi ‘bagio dwbl’ y gwastraff bwyd ac ni ddylai gynnwys cynwysyddion plastig anhyblyg.

Beth yw’r buddion?
Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu mwy o drigolion i ailgylchu eu gwastraff bwyd yn haws. Mae hefyd yn arbed pobl i ymdrechu i gael bagiau a gynigir gan y cyngor ac yn rhoi defnydd arall i fagiau a allai fod fel sbwriel fel arall.

Pam ydych chi wedi newid pethau?
Treuliad anerobig yw’r dewis a ffafrir gan Lywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn gymaint mwy effeithlon. Mae compostio traddodiadol yn cynhyrchu cynnyrch tebyg ond heb gynhyrchu trydan. Mae hefyd yn caniatáu i’r gwastraff gardd a gasglwyd ar wahân (heb unrhyw fwyd) gael ei gompostio ar ffermydd lleol – gan leihau ymhellach y gost o brosesu a chadw’r ffrwd hon yn lleol.

Mae Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol cyfagos i anfon ein gwastraff bwyd i gyfleuster gwastraff bwyd rhanbarthol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Sut mae’r broses newydd yn gweithio?
Mae treuliad anerobig yn dynwared y ffordd mae coluddyn buwch yn gweithio. Caiff bwyd ei dreulio mewn tanciau mawr gan ddefnyddio bacteria naturiol a chaiff nwy methan a gynhyrchir ei ddal (yn wahanol i’r fuwch!) A’i losgi i gynhyrchu trydan. Sgil-gynnyrch o’r broses hon yw gwrtaith cryf a ddefnyddir i ledaenu ar dir fferm lleol.

Faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn y cyfleuster treulio anaerobig?
Mae cyfleuster Pen-y-bont ar Ogwr yn cynhyrchu digon o drydan i bweru tref maint Y Fenni, Cas-gwent, Trefynwy neu Gil-y-coed.

Pam ei bod nawr yn iawn i ddefnyddio bagiau plastig fel leinin gwastraff bwyd?
Yn flaenorol, anfonwyd gwastraff bwyd Sir Fynwy ar gyfer ‘compostio yn eu bagiau’ lle gellid compostio’n llawn y bagiau bwyd startsh fel rhan o’r broses.

Fodd bynnag, mae’r broses dreulio anaerobig yn wahanol iawn i gompostio ac ni allant ymdrin ag unrhyw fath o fag gwastraff bwyd – felly fe’u tynnir allan cyn i’r broses dreulio ddechrau.

Beth sy’n digwydd i’r bagiau?
Unwaith y caiff eu tynnu ymaith, mae’r bagiau’n cael eu gwasgu’n sych a’u hanfon at ‘gyfleuster ynni o wastraff’ Caerdydd i gynhyrchu mwy o drydan.

A fyddaf yn dal i allu cael bagiau gwastraff bwyd y cyngor?
Oes, bydd bagiau gwastraff bwyd ar gael o Hybiau Cymunedol. Bydd y bagiau newydd yn edrych yr un fath â’r hen rai ond fe’u gwneir o blastig wedi’i ailgylchu.

Mae gen i hen fagiau gwastraff bwyd y cyngor ar ôl – a ydw i o hyd yn gallu eu defnyddio?
Ydy, mae’n gwneud synnwyr i ddefnyddio’ch hen fagiau gwastraff bwyd lle bynnag y bo modd.

A yw o hyd yn iawn i roi papur/papur cegin yn y cadi gwastraff bwyd?
Ydy, mae o hyd yn iawn parhau i roi papur/papur cegin yn y cadi gwastraff bwyd.

A allaf leinio fy nghadi bwyd gyda bagiau papur neu bapurau newydd?
Ydy, mae’n iawn defnyddio bagiau papur neu bapurau newydd yn hytrach na bag i leinio’ch cadi gwastraff bwyd.

A oes raid i mi waredu ar unrhyw becynnu plastig o’m gwastraff bwyd?
Os yw’r gwastraff bwyd mewn bag plastig (fel hen fag o datws neu fara) nid oes angen ei waredu. Rhaid gwaredu ar becynnau eraill fel hambyrddau bwyd.

Onid yw bagiau compostadwy yn well?
Mae angen aer a golau ar fagiau compostadwy i’w helpu i dorri i lawr. Mae’r treuliwr anerobig yn gweithredu yn y tywyllwch ac yn absenoldeb aer felly ni all brosesu bagiau compostadwy. Mae’r holl fagiau wedi’u gwahanu o’r bwyd a’u llosgi i gynhyrchu trydan. Felly’n ddelfrydol, hoffem weld yr holl fagiau plastig hynny yn cael eu hail-ddefnyddio yn hytrach na bagiau compostadwy drud. Mae bagiau compostadwy hefyd yn fwy anodd i’r cyfleuster ei wahanu gan eu bod yn ludiog pan yn dwym.

Sut mae hyn yn cyd-fynd â Sir Fynwy yn gweithio tuag at statws dim plastig?
Ym mis Mehefin 2018, ymrwymodd Sir Fynwy i fod yn ‘Gyngor Dim Plastig’. Felly, yr ydym yn ceisio lleihau ein defnydd ein hunain o blastigau untro tra’n annog ein preswylwyr i wneud yr un peth. Fodd bynnag, o ran ailgylchu gwastraff bwyd, mae’n ymddangos ei fod yn gwneud synnwyr wrth ailddefnyddio hen fagiau plastig a allai fod wedi dod i ben fel sbwriel. Gall ail-ddefnyddio’r bagiau fel hyn arbed amser, arian ac adnoddau. Ar ôl cael eu defnyddio fel leinin cadi gwastraff bwyd, byddant yn cael eu hanfon at gyfleuster ynni o wastraff yng Nghaerdydd lle maent yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan.

A allaf roi braster, olew a saim yn fy nghadi gwastraff bwyd?
Oes, gall meintiau bach o fraster, olew a saim fynd i mewn. Gall papur cegin helpu i amsugno meintiau bach. Gellir cymryd meintiau mawr o olew coginio i ganolfannau ailgylchu Five Lanes neu Lan-ffwyst. Peidiwch byth â thywallt y rhain i lawr y sinc.