Skip to Main Content

Pryd mae fy niwrnod casglu?

Ewch i FySirFynwy i weld pryd y caiff eich gwastraff ac ailgylchu eu casglu.

Rhowch eich ailgylchu a’ch gwastraff allan erbyn 7am os gwelwch yn dda.

Rydym yn darparu casgliad ailgylchu wythnosol o ddrws i ddrws i bob cartref yn Sir Fynwy.


Bagiau ailgylchu amldro yn Sir Fynwy

Bagiau ailgylchu amldro yn Sir Fynwy

Gan ddechrau ar 21ain Hydref 2024, byddwn yn dechrau cyflwyno bagiau amldro ar draws Sir Fynwy gyfan. Disgwylir i hyn gael ei gwblhau cyn Nadolig 2024. Os ydych wedi derbyn bagiau amldro newydd, defnyddiwch y rhain ar gyfer eich gwasanaeth casglu ailgylchu nesaf. Mae rhagor o wybodaeth am fagiau amldro a’r newidiadau i’r diwrnodau casglu ar gael yma.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn casglu papur a cherdyn mewn bagiau plastig untro ar chaniau a plastig mewn bagiau plastig porffor untro o fwyafrif cartrefi Sir Fynwy.

Cafodd bagiau amldro eu treialu gyda dros 4000 o gartrefi yn Sir Fynwy ym mis Tachwedd 2019. Fe wnaethom gasglu llawer o ddata yn ystod y cyfnod treialu yn cynnwys adborth gan breswylwyr ar y system gasglu newydd, amseru rowndiau casglu a phrofion marchnad.

Roedd canlyniadau’r cynllun treialu yn llwyddiannus a chafodd bagiau amldro eu hymestyn i ardaloedd bach arall, gyda chyfanswm o tua 9000 o gartrefi yn awr yn defnyddio bagiau amldro.

Cytunwyd y bydd bagiau amldro yn cymryd lle bagiau plastig untro ar gyfer casgliadau ailgylchu.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd a rydym yn ymroddedig i ddefnyddio plastig untro. Bydd y bagiau newydd yn gostwng faint o fagiau plastig untro a ddefnyddiwn, gan felly leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Mae hefyd fanteision ariannol i ddefnyddio bagiau aildro ar gyfer casgliadau ailgylchu: 
Mae’n well gan y farchnad ailgylchu dderbyn deunydd yn rhydd, felly dylai tynnu’r bagiau plastig ostwng y gost prosesu ac mae’n ein galluogi i sicrhau gwell gwerth am arian.
Mae prynu bagiau plastig untro yn costio tua £180,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Bydd yn costio llai i’w cyflenwi lle bynnag y gellir defnyddio bagiau amldro lawer iawn o weithiau. Byddwch yn derbyn taflen wybodaeth gyda’ch bagiau pan gânt eu dosbarthu. Caiff y bagiau eu dosbarthu mewn camau, felly efallai y byddwch yn gweld cartrefi yn eich ardal yn derbyn bagiau amldro cyn i chi gael rhai eich hun.


Pa eitemau all fynd i’r bagiau ailgylchu coch a phorffor?

Lawrlwythwch ein taflen yn esbonio beth sydd yn mynd ym mha fag.

Yn y bag coch gallwch ailgylchu:

  • Papur
  • Cardfwrdd
  • Post sbwriel yn cynnwys amlenni
  • Papurau newydd a chylchgronau
  • Llyfrau ffôn a catalogau

Yn y bag porffor gallwch ailgylchu:

  • Caniau bwyd a diod
  • Poteli plastig
  • Basged ffrwythau plastig/hambyrddau prydau parod
  • Potiau iogwrt (golchwch os gwelwch yn dda)
  • Tybiau margarin
  • Erosolau (rhaid iddynt fod yn wag)
  • Ffoil alwminiwm/ffoil cegin (dim pecynnau creision)
  • Cartonau diod, e.e. sudd oren ac yn y blaen

Ni all poteli a jariau gwydr fynd yn y bag porffor, mae’n rhaid iddynt fynd i’ch blwch ailgylchu gwydr.

Ar hyn o bryd ni allwn ailgylchu pecynnau creision, bagiau plastig, cling ffilm na pholystyren. Rhowch yr eitemau hyn gyda sbwriel eich cartref os gwelwch yn dda.

Peidiwch â rhoi eitemau trydanol neu fatris yn eich casgliad ailgylchu coch a phorffor. Gall batris Lithium-Ion sydd mewn ffonau symudol a gliniaduron achosi tân pan gânt eu hanfon i’r safle taflu gwastraff. Mae’n bwysig cael gwared â batris mewn mannau casglu batri mewn siopau neu yn eich Canolfan Ailgylchu.

I ganfod mwy am yr eitemau bob dydd y gallwch eu hailgylchu o bob ystafell yn eich cartref, ewch i http://www.recycleforwales.org.uk/full-house

Gall cartrefi sy’n defnyddio bagiau plastig coch a phorffor amldro gasglu mwy o fagiau pan mae eu hangen. Maent ar gael yn rhad ac am ddim o’ch Hyb Cymunedol Lleol neu mewn  Safleoedd Bagiau Ailgylchu lleol.

Dim ond ar gyfer ailgylchu ochr y stryd preswylwyr Sir Fynwy y mae bagiau coch a phorffor ar gael. Ni ellir mynd â bagiau coch a phorffor i’r canolfannau ailgylchu ac ni cheir eu defnyddio ar gyfer sbwriel cartrefi. Os yw ein criwiau wedi rhoi sticer a gadael eich bagiau ailgylchu, anfonwch e-bost at Contact@monmouthshire.gov.uk neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01633 644644.


I ble mae’ch ailgylchu’n mynd?

Ar gyfartaledd anfonwn 10,000 tunnell fetrig y flwyddyn o ddeunydd bagiau coch a phorffor i Gyfleusterau Ailgylchu Deunyddiau o gasgliadau ochr y stryd. Caiff y deunyddiau eu didoli gan systemau awtomatig a llaw, cyn i’w hansawdd gael ei wirio i sicrhau nwydd manyleb uchel, safonedig at ailbrosesyddion arbenigol a gymeradwywyd i’w troi yn gynnyrch newydd. Nid yw’r fanyleb yn newid yn ôl y farchnad olaf a chaiff yr holl ddeunydd ei brosesu i safon Ewropeaidd e.e. EN643 ar gyfer graddau papur a adenillwyd, cyn penderfynu ar y farchnad olaf. Mae’r deunyddiau a ddidolir yn nwydd a werthir yn ddomestig ac ar draws y byd i farchnadoedd allforio. Mae EN463 yn caniatáu hyd at 1.49% o halogiad fesul llwyth, fel arfer hyn bydd hyn yn ffenestri plastig mewn amlenni, dalenni plastig mewn cylchgronau ac yn y blaen.

Mae’r ailbrosesydd yn tybio fod tua 9% o’r deunyddiau wedi eu halogi a chânt ei hanfon i safle Ynni o Wastraff yn y Deyrnas Unedig (900 tunnell fetrig y flwyddyn).

Caiff tua 25% o ddeunyddiau eu hallforio’n uniongyrchol i wledydd tramor fel nwydd byd-eang. Mae gan Prydain hanes hir o allforio deunydd ar draws y byd e.e. glo, llechi a dur o Gymru.

Caiff tua 65% o ddeunyddiau eu hailbrosesu ym Mhrydain.

Mae cwmnïau o Malaysia, Indonesia a rhannau eraill o dde ddwyrain Asia yn prynu’r belau o ddeunydd wedi eu didoli ar gyfer eu prosesu ymlaen. Daw’r deunydd pacio a ddefnyddir ar gyfer mwyafrif helaeth y nwyddau a brynir ym Mhrydain o’r ailbrosesyddion hyn. Caiff y belau eu didoli i safonau Ewropeaidd ond mae peth halogiad yn anochel mewn proses ddidoli awtomatig sy’n dibynnu ar gyfranogiad torfol y cyhoedd. Os yw’r cwmnïau hyn yn cael gwared â deunydd yn anghywir dibynnwn ar asiantaethau amgylcheddol yn y gwledydd hyn i fonitro ac erlyn pan fo angen. Mae’r deunydd a anfonir yn nwydd a gaiff ei ddidoli ym Mhrydain cyn cael ei brynu gan y marchnadoedd allforio.

Mae mwy o wybodaeth ar lle aiff eich ailgylchu ar Fy Ailgylchu Cymru.