Skip to Main Content

Newidiadau Ailgylchu 2019 – Cwestiynau Cyffredin

Pam fod pethau’n newid drwy’r amser?

Mae’r diwydiant ailgylchu yn newid yn gyson. Mae newidiadau mewn deddfwriaeth, poblogaeth, cyfansoddiad gwastraff, technolegau newydd a marchnadoedd byd i gyd yn effeithio ar ein systemau lleol o gasglu ailgylchu. Mae’n cyfrannu at yr ‘economi cylchol’ pan gaiff adnoddau eu hailddefnyddio a’u hailgylchu.

Blwch ailgylchu gwydr

 

Pam fod yn rhaid i ni wahanu ein gwydr i flwch ailgylchu?

Mae cadw gwydr allan o’r bagiau ailgylchu yn sicrhau ein bod yn cael ailgylchu o ansawdd gwell. Mae’n rhwyddach ailgylchu deunyddiau a gesglir ar wahân a maent yn fwy gwerthfawr i ail-brosesyddion. Gellir ailgylchu deunyddiau ailgylchu o ansawdd da a glân i gynnyrch gwerth uwch.

A yw’n rhaid i mi dalu am fy mlwch?

Na, caiff pob preswylydd gynhwysydd yn rhad ac am ddim ar gyfer eu gwydr.

Pa fath o wydr allaf i roi yn y blwch ailgylchu?

Gallwn gasglu pob math o boteli gwydr a jariau. Ni allwn gasglu unrhyw wydr llen o ffenestri neu dai gwydr, Pyrex neu lestri, na gwydrau yfed (gellir ailgylchu’r holl ddeunyddiau hyn yn ein canolfannau ailgylchu).

A oes eisiau golchi cynwysyddion gwydr yn gyntaf?

Oes, os gwelwch yn dda. Mae eu golchi yn gyntaf i gael gwared ag unrhyw hylif neu wastraff bwyd yn helpu ein criwiau casglu ac ail-brosesyddion. Mae hefyd yn cadw eich blwch yn lân.

A ddylwn i dynnu caeadau poteli a jariau?

Mae’n well gwneud hynny ond nid yn hanfodol i dynnu’r caeadau. Gadewch y caeadau yn y gwydr y blwch. Caiff y caeadau eu hailgylchu gyda’r gwydr.

 

Lle dylwn i roi gwydr wedi torri?

I osgoi anafiadau, dylid lapio gwydr wedi torri yn ofalus mewn papur a’i roi yn eich bag sbwriel.

 

Beth os yw potel wydr yn torri pan fyddaf yn llenwi’r blwch?

Os yw gwydr yn torri pan fyddwch yn llenwi’r blwch, peidiwch poeni – byddwn yn ei gasglu.

A allaf gael mwy na un blwch ailgylchu?

Gallwch, ond gofynnwn i chi roi cynnig ar bethau am ychydig wythnosau yn gyntaf i wneud yn siŵr eich bod angen blwch arall. Mae gan y blwch le i 44 litr o wydr a’r adborth o’r cyfnod treialu oedd fod hyn yn fwy na digon ar gyfer y rhan fwyaf o breswylwyr. Caiff gwydr ei gasglu bob bythefnos. Os na allwch ymdopi gydag un blwch ac angen ail flwch ailgylchu, anfonwch e-bost at contact@monmouthshire.gov.uk, ein ffonio ar 01633 644644 neu ymweld â’ch hyb cymunedol lleol i archebu blwch i gael ei ddosbarthu i chi. Ni fydd hybiau cymunedol yn cadw blychau gan nad oes ganddynt ddigon o ofod storio.

A allaf gael caead i’r blwch?

Mae’n flin gennym, ond ni allwn roi caeadau ar gyfer y blychau gwydr. Caiff caeadau/rhwydi eu rhoi fel arfer ar gyfer blychau ailgylchu pan maent yn cynnwys deunyddiau a all chwythu i ffwrdd neu gael eu difrodi drwy wlychu.

 

A fydd fy mlwch yn llenwi gyda dŵr glaw?

Mae tyllau bach ym mhob cornel o’r blwch fel y gall dŵr glaw ddraenio i ffwrdd. Gellir rhoi poteli a jariau ar eu pen i lawr/ar i lawr yn y blwch i’w hatal rhag llenwi gyda dŵr.

 

Mae’r blwch ailgylchu gwydr yn rhy fawr i fi ei gario.

Gallwn gynnig blwch llai gydag un ddolen i’w gwneud yn haws ei gario ar gyfer preswylwyr oedrannus neu anabl na all gario blwch ailgylchu gwydr.

Pam fod rhai preswylwyr wedi cael gwahanol fath o flwch ailgylchu gwydr?

Gall preswylwyr sy’n byw mewn fflat neu safle tai gwarchod gael blwch ailgylchu gwydr llai gyda dolen (tebyg i flwch gwastraff bwyd). Gellir rhoi bin cymunol mwy yn benodol ar gyfer gwydr i rai safleoedd tai gwarchod.

Beth sy’n digwydd i’r gwydr pan gafodd ei gasglu?

Mae ein criwiau casglu yn mynd â’r gwydr i’n gorsafoedd trosglwyddo newydd yn Llan-ffwyst a Five Lanes a chaiff ei gludo i ailbrosesydd yng Nghwmbrân lle caiff y gwydr ei ddidoli ac wedyn ei ddefnyddio i wneud cynnyrch gwydr newydd ac insiwleiddiad.

Beth am wydr o fy musnes?

Gall busnesau sydd wedi cofrestru gyda ni ar gyfer casglu bagiau ailgylchu masnachol coch a phorffor ofyn am flychau ar gyfer gwydr.

A allaf ddal i roi gwydr yn fy magiau ailgylchu porffor?

Na mae’n flin gennym, ni fedrwn gasglu bagiau ailgylchu sy’n cynnwys gwydr. Dywedwyd wrth ein criwiau i adael y bagiau hyn a gosod sticeri arnynt yn esbonio pam.

Beth os rhoddwyd sticer ar fy magiau?

Os rhoddwyd sticer ar eich bag, tynnwch y gwydr neu eitemau eraill na ddylai fod yno a byddwn yn casglu eich ailgylchu wedi’i ddidoli ar y rownd casglu nesaf.

O beth mae’r blwch wedi ei wneud?

Cafodd y blwch ei wneud o 75% o ddeunydd plastig wedi ei ailgylchu.

Beth yw cyfaint y blwch?

Mae gan y bocs gyfaint o 44 litr.

Fe gawsom y cynllun ailgylchu blwch du yn y gorffennol, pam wnaethoch chi newid o hyn a nawr rydych chi’n mynd yn ôl i flwch ar gyfer ailgylchu gwydr?

Mae’r farchnad ailgylchu yn newid yn gyson a rhaid i’r Cyngor geisio diwallu anghenion y diwydiant ailgylchu a hefyd ddarparu gwasanaethau sy’n dderbyniol i’n trigolion. Cafodd y cynllun ailgylchu blwch du ei ddisodli gan y bagiau coch a phorffor, tua 7 mlynedd yn ôl, ar adeg pan oedd gwerth y farchnad ailgylchu ar ei uchafbwynt. Golygai hyn y gallem gasglu’r ailgylchu oedd wedi’i gymysgu â’i gilydd yn llawer rhatach na’i gwahanu ar ochr y ffordd ac roedd y farchnad yn cwmpasu costau gwahanu mewn cyfleusterau ailgylchu deunyddiau. Mae’r sefyllfa hon wedi newid yn ddramatig ac mae angen inni gadw’r deunyddiau ar wahân ar ochr y ffordd i wneud y mwyaf o werth a lleihau ein costau. Wrth edrych yn ôl, y cynllun blwch du gwreiddiol oedd y system well ond roedd cyfranogiad yn isel iawn ac roedd trigolion eisiau ateb symlach gyda’r symudiad i gasgliadau gwastraff bob pythefnos.  Mae’r amser wedi symud ymlaen ac mae ailgylchu’n llawer mwy prif ffrwd a rhan o fywyd pawb. Rydym wedi ceisio gwneud y newidiadau hyn mor hawdd â phosib a gobeithio y bydd trigolion yn deall pwysigrwydd ailgylchu a pharhau i gymryd rhan mewn niferoedd mor uchel.

Profi ac arolwg o ailgylchu gwydr

Mae’r newid i gasglu gwydr mewn blwch ar wahân yn dilyn prawf ailgylchu gwydr llwyddiannus o dros 6,500 o gartrefi yn ardal y Fenni yn 2016. Mae’r cartrefi yn yr ardal wedi parhau i ddefnyddio’r blwch ar gyfer casglu gwastraff.

Cynhaliwyd arolwg i gael adborth preswylwyr o’r prawf ailgylchu gwydr. Cawsom 410 ymateb gan arolygon ar-lein, drwy’r post a wyneb i wyneb.

Dyma rai o ganfyddiadau’r arolygon:

Cwestiynau:

Ydych chi’n defnyddio’r blwch ailgylchu gwydr?

Ydw – 94%

Na – 6%

Pa mor aml ydych chi’n rhoi’r blwch allan?

Bob wythnos 26%

Bob bythefnos – 27%

Llai nag unwaith bob bythefnos – 47%

Ydych chi’n hapus gyda’r cynhwysydd?

Ydw – 70%

Na – 30%

Ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth ailgylchu newydd?

Ydw – 86%

Na – 14%

Yn ystod y cyfnod prawf o ddwy flynedd yn y Fenni, fe wnaeth mwyafrif y preswylwyr ymdopi gydag un blwch gwydr ac mae’r rhan fwyaf yn ei roi allan i gael ei gasglu unwaith bob bythefnos neu’n llai aml.

Cwestiynau Cyffredinol

Faint o’r gloch ddylwn i roi fy sbwriel a fy ailgylchu mas?

Gofynnir i chi sicrhau fod eich holl ailgylchu a sbwriel allan ar ochr y palmant erbyn 7.00am ar fore’r casglu. Peidiwch rhoi sbwriel neu ailgylchu mas yn gynharach na’r noswaith cyn eich casgliad. Gall hyn achosi sbwriel os caiff eich bagiau eu rhwygo.

A allaf drefnu cymorth casglu?

Os ydych yn oedrannus, yn anabl neu’n ei chael yn anodd mynd â’ch gwastraff at y palmant, cysylltwch â ni a gwnawn ein gorau i drefnu cymorth casglu. Mae’n rhaid i ni roi ystyriaeth i risiau, lonydd cul neu hir a llwybrau mynediad.

Pam fod fy nyddiau casglu wedi newid?

Mae ein cerbydau newydd yn fwy ac yn gallu casglu mwy o ddeunyddiau gyda’i gilydd mewn gwahanol adrannau. Bu’n rhaid llunio llwybrau casglu newydd ar gyfer y cerbydau newydd fydd yn llenwi ar wahanol gyflymder a chyfansoddiad deunyddiau i’n hen gerbydau.

Pam fod gen i’n awr fwy na un diwrnod casglu?

Rydym yn gostwng nifer y cerbydau casglu sy’n mynd heibio’ch tŷ ond mae casglu mewn gwahanol adrannau yn cyfyngu ein gallu i gasglu popeth ar yr un diwrnod.

Pam nad yw fy nyddiau newydd yn dangos ar-lein?

Bydd dyddiau casglu newydd ar gael ar-lein o 4 Mawrth. Bydd y system yn cael ei diweddaru ar y penwythnos o’r blaen.

Pam eich bod chi wedi casglu cerbydau newydd?

Mae ein hen gerbydau casglu wedi cyrraedd diwedd eu hoes (fel arfer tua 7 mlynedd) a bu’n rhaid cael rhai newydd. Cynlluniwyd ar gyfer cerbydau newydd a’u harchebu y llynedd. Mae gan ein cerbydau newydd adrannau ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o wastraff.

Manteision y cerbydau newydd yw:

  • Cerbydau newydd gyda gwahanol adrannau ar gyfer gwahanol fathau o ddeunyddiau.
  • Ein galluogi i gasglu deunyddiau ansawdd gwell a gwerth uwch ar gyfer ailgylchu.
  • Gwella effeithiolrwydd gyda llai o gerbydau ar y ffordd.
  • Llai o gerbydau yn pasio cartrefi.

Sbwriel

Pam fod terfyn o ddau fag ar gyfer sbwriel?

  • Gellir ailgylchu o leiaf 70% o sbwriel cartrefi.
  • Rydyn ni’n casglu y deunyddiau yma bob wythnos mewn bagiau coch a phorffor.
  • Mae’n well i’r amgylchedd.
  • Mae’n rhatach ailgylchu sbwriel cartref na’i anfon i safle ‘ynni o wastraff’.
  • Mae’n gwneud mwy o synnwyr i wario cyllidebau is y cyngor ar addysg a gofal cymdeithasol na delio gyda sbwriel cartrefi heb ei ddidoli.

Mae gennyf deulu mawr – a allaf roi mwy na 2 fag allan?

Gall y rhan fwyaf o gartrefi ymdopi gyda therfyn o ddau fag ond os oes gennych deulu mawr, gallwch ofyn i Swyddog Ailgylchu ymweld â chi a all gynnig lwfans ychwanegol.

Beth am ludw?

Gellir rhoi lludw mewn bin sbwriel bach ychwanegol a byddwn yn ei gasglu. Gofynnir i chi wneud yn siŵr fod y lludw wedi oeri ac nad yw’n rhy drwm i’n criwiau ei godi.

A allaf gael bin olwyn?

Na, mae Sir Fynwy yn awdurdod sy’n casglu bagiau.

Cewynnau a Gwastraff Glanweithdra

 

Faint o fagiau cewynnau neu wastraff glanweithdra allaf i eu rhoi allan i gael eu casglu?

Gallwch roi cynifer o fagiau ag ydych angen, nid oes cyfyngiadau.

Dim ond ychydig o gewynnau sydd gen i

Gellir rhoi nifer fach o gewynnau neu wastraff glanweithdra yn eich bag du os oes gennych le.

Beth allaf ei roi yn y bagiau melyn?

Gwastraff cewynnau a gwastraff glanweithdra a chynnyrch cysylltiedig megis weips ac yn y blaen. Ni chaiff bagiau melyn sy’n cynnwys unrhyw sbwriel cartref eu casglu.

 

Pam nad ydych chi’n ailgylchu gwastraff cewynnau?

Ychydig iawn o gwmnïau sydd â chyfleusterau ailgylchu ar gyfer y math o wastraff ac ar hyn o bryd nid yw’n effeithlon o ran cost ar gyfer Sir Fynwy.

 

Ydych chi’n hyrwyddo cewynnau y gellir eu golchi?

Ydym, mae Sir Fynwy yn cefnogi rhieni sy’n dewis defnyddio cewynnau y gellir eu golchi gan eu bod yn well i’r amgylchedd a gallant arbed cannoedd o bunnau i rieni o gymharu â chost cewynnau taflu.

Allwch chi roi sampl i roi cynnig arno?

Gallwn, gallwn roi sampl o gewyn y gellir ei olchi i rieni. I wneud cais am sampl, anfonwch e-bost atom yn wasteandstreetservices@monmouthshire.gov.uk .

Ydych chi’n cynnig disgownt i rieni Sir Fynwy sy’n prynu set o gewynnau y gellir eu golchi?

Ydym, gallwn gynnig disgownt o £30 wrth brynu set geni i boti drwy Little Treasurers yn y Fenni. Mae cyfanswm y gost tua £130.

Gwastraff Bwyd

 

Beth sy’n newydd?

Gall preswylwyr yn awr ailddefnyddio eu hen fagiau plastig fel bagiau bara, bagiau bwyd rhew a bagiau grawnfwyd i leinio eu cadis gwastraff bwyd.

Pa fath o fagiau ddylwn i ddefnyddio?

Lle bynnag sy’n bosibl, gofynnir i chi ddefnyddio bagiau gwastraff bwyd a ddarperir gan yr awdurdod (naill ai’r bagiau startsh presennol neu’r bagiau plastig newydd fydd yn cymryd lle’r rhai startsh yn y dyfodol agos). Os ydych yn rhedeg allan o fagiau’r awdurdod, gallwch ailddefnyddio hen fagiau plastig. Mae enghreifftiau addas yn cynnwys bagiau bara, bagiau brechdannau/rhewgell neu fagiau cario tenau (peidiwch defnyddio bagiau math trwchus ‘bag am oes’). Dylai preswylwyr osgoi ‘dwbl-fagio’ gwastraff bwyd ac ni ddylai cynwysyddion plastig caled.

Beth yw’r manteision?

Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu mwy o breswylwyr i ailgylchu eu gwastraff bwyd yn rhwyddach. Mae hefyd yn arbed pobl rhag gorfod cael bagiau gan y cyngor ac yn rhoi defnydd arall i fagiau a allai fel arall fod wedi gorffen lan fel sbwriel.

 

Pam eich bod wedi newid pethau?

Treulio anerobig yw’r opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio oherwydd ei fod gymaint yn fwy effeithiol. Mae compostio traddodiadol yn cynhyrchu cynnyrch tebyg ond heb gynhyrchu trydan. Mae hefyd yn galluogi gwastraff gardd a gesglir ar wahân (heb unrhyw fwyd) i gael ei gompostio ar ffermydd lleol – gan ostwng cost prosesu ymhellach a chadw’r ffrwd hwn yn lleol.

Mae Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol cyfagos i anfon ein gwastraff bwyd i safle gwastraff bwyd rhanbarthol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Sut mae’r broses newydd yn gweithio?

Mae treulio anerobig yn efelychu sut mae stumog buwch yn gweithio. Caiff gwastraff bwyd ei dreulio mewn tanciau enfawr yn defnyddio bacteria naturiol a chaiff y nwy methan a gynhyrchir ei gasglu (yn wahanol i nwy methan o fuwch!) a’i losgi i gynhyrchu trydan. Mae gwrtaith cyfoethog a ddefnyddir i’w ledaenu ar dir amaethyddol lleol yn sgil-gynnyrch y broses.

Faint o ynni mae safle treulio anerobig yn ei gynhyrchu?

Mae safle Pen-y-bont ar Ogwr yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tref o faint y Fenni, Cas-gwent, Trefynwy neu Gil-y-coed.

Pam ei bod hi’n awr yn iawn defnyddio bagiau plastig fel leinwyr gwastraff bwyd?

Arferid anfon gwastraff bwyd Sir Fynwy ar gyfer ei ‘gompostio mewn llestr’ lle gallai bagiau gwastraff bwyd startsh corn eu compostio’n llawn fel rhan o’r broses.

Fodd bynnag, mae’r broses treulio anerobig yn wahanol iawn i gompostio ac ni all drin unrhyw fath o fag gwastraff bwyd – felly cânt eu tynnu cyn i’r broses dreulio ddechrau.

 

Beth sy’n digwydd i’r bagiau?

Unwaith y byddant wedi cael eu tynnu, caiff y bagiau eu gwasgu’n sych a’u hanfon i ‘safle ynni o wastraff’ yng Nghaerdydd i gynhyrchu mwy o drydan.

 

A fyddaf yn dal i fedru cael bagiau gwastraff bwyd gan y cyngor?

Byddwch, bydd bagiau gwastraff bwyd ar gael o Hybiau Cymunedol. Bydd y bagiau newydd yn edrych yr un fath â’r hen rai ond cânt eu gwneud o blastig wedi’i ailgylchu.

Rwy’n dal i fod â hen fagiau gwastraff bwyd y cyngor ar ôl – a fedraf ddal i’w defnyddio?

Gallwch, mae’n gwneud synnwyr i ni ddefnyddio eich hen fagiau gwastraff bwyd lle bynnag sy’n bosibl.

A oes yn dal i fod angen i mi dynnu unrhyw ddeunydd pacio plastig o fy ngwastraff bwyd?

Os yw’r gwastraff bwyd mewn bag plastig (megis hen fag tatws neu fara) nid oes angen ei dynnu. Mae’n rhaid tynnu deunydd pacio arall fel hambyrddau bwyd.

Pam nad ydych chi’n cadw’r hen fagiau y gellid eu compostio?

Mae bagiau y gellir eu compostio angen aer a golau i bydru. Mae’r treuliwr anerobig yn gweithredu yn y tywyllwch a heb aer felly ni all brosesu bagiau y gellir eu compostio. Caiff yr holl fagiau eu gwahanu oddi wrth y bwyd a’u llosgi i gynhyrchu trydan. Felly, yn ddelfrydol fe hoffem weld yr holl fagiau plastig hynny’n cael eu hailddefnyddio yn hytrach na bagiau drud y gellir eu compostio. Mae bagiau y gellir eu compostio hefyd yn fwy anodd i’r safle eu gwahanu gan eu bod yn dod yn ludiog pan maent yn dwym.

 

Sut mae hyn yn cyd-fynd â Sir Fynwy yn gweithio tuag at statws dim plastig?

Ym mis Mehefin 2018 ymrwymodd Sir Fynwy i ddod yn ‘gyngor di-blastig’. Felly rydym yn ceisio gostwng ein defnydd ein hunain o blastig un-tro ac yn annog ein preswylwyr i wneud yr un fath. Fodd bynnag, pan ddaw i ailgylchu gwastraff bwyd, mae’n ymddangos ei bod yn gwneud synnwyr i ailddefnyddio hen fagiau plastig a fedrai fod wedi bennu lan fel sbwriel. Gall ailddefnyddio bagiau yn y ffordd yma arbed amser, arian ac adnoddau. Ar ôl cael eu defnyddio fel leinwyr cadi gwastraff bwyd, cânt eu hanfon i safle ynni o wastraff yng Nghaerdydd lle cânt eu defnyddio i gynhyrchu trydan.

 

A allaf roi saim ac olew yn fy nghadi gwastraff bwyd?

Gallwch, gall ychydig o saim ac olew fynd i’r cadi gwastraff bwyd. Gall papur cegin helpu i soegian cyfaint bach. Dylid mynd â cyfaint mawr o olew coginio i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi Five Lanes neu Lan-ffwyst. Ni ddylech byth eu tywallt i lawr y sinc.

Ailgylchu Bagiau Coch a Phorffor

Pam ydych chi’n ystyried cyflwyno y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer ailgylchu?

Bydd y rhan fwyaf o gartrefi yn derbyn bagiau coch a phorffor y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer ailgylchu yn nes ymlaen yn 2019. Bydd hyn yn golygu faint o fagiau defnydd syml a brynwn a bydd yn gwella ansawdd y deunydd a gasglwn ar gyfer ailgylchu.

A fydd ein bagiau coch a phorffor yn dal i gael eu casglu’n wythnosol?

Bydd ailgylchu mewn bagiau coch a phorffor yn parhau i gael ei gasglu’n wythnosol.

A fydd ailgylchu pawb yn caeel ei gasglu yr un pryd â’u gwastraff bwyd ar yr un cerbyd?

Bydd gwastraff bwyd ac ailgylchu y rhan fwyaf o gartrefi yn cael ei gasglu ar yr un pryd ond ar gerbydau newydd gydag adrannau ar wahân.

Ond – mae ardaloedd gwledig unwaith eto’n debygol o gael gwasanaeth gan gerbydau bach.

Pryd y caiff y bagiau newydd eu dosbarthu?

Bydd y rhan fwyaf o gartrefi yn derbyn bagiau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer eu hailgylchu yn ddiweddarach yn 2019.

Pryd y cymerwyd y penderfyniad yma?

Pleidleisiodd cynghorwyr ar 10 Ionawr 2019 i symud i fagiau y gellir eu hailddefnyddio.

A fydd y bagiau coch a phorffor newydd yn cael eu chwythu gan y gwynt ac yn caniatáu i sbwriel ddianc?

Bydd y bagiau coch a phorffor sy’n cael eu cynnig wedi’u trymhau a bydd ganddynt gaead neu sêl felly ni ddylai fod cymaint o broblemau ag sydd gan fagiau neu sbwriel sy’n cael eu chwythu yn y gwynt. Mae’r lluniau yn y daflen yn ddarluniadol yn unig ac ni fydd y bagiau sy’n cael eu prynu yn caniatáu ailgylchu i ddianc.

Sut allwn ni ailgylchu papur wedi’i rhwygo gyda’r bagiau newydd?

Bydd y bagiau coch a phorffor sy’n cael eu cynnig wedi’u trymhau a bydd ganddynt gaead neu sêl felly ni ddylai fod cymaint o broblemau ag sydd gan fagiau neu sbwriel sy’n cael eu chwythu yn y gwynt. Mae’r lluniau yn y daflen yn ddarluniadol yn unig ac ni fydd y bagiau sy’n cael eu prynu yn caniatáu ailgylchu i ddianc. Fe fyddem hefyd yn awgrymu y gallech chi fewnosod unrhyw bapur wedi’i dorri i mewn i fag papur neu amlen er mwyn sicrhau nad oes gollyngiadau’n digwydd.

A fydd cyfyngiad ar y nifer o fagiau ailgylchu y gallwch eu cael?

Nid oes cyfyngiad ar ailgylchu, gall trigolion gael cymaint o fagiau sydd eu hangen arnynt. Bydd y bagiau’n dal mwy o ddeunydd na’r bagiau plastig ac ni fydd gwydr bellach yn y bagiau ailgylchu. Bydd y rhan fwyaf o drigolion yn gweld y bydd 1 bag coch ac 1 bag porffor yn addas ond gall trigolion cael mwy os oes angen.

Gwastraff Gardd

Pa mor aml y caiff gwastraff gardd ei gasglu?

Caiff gwastraff gardd ei gasglu bob wythnos o ddechrau mis Mawrth i ddiwedd mis Tachwedd.

 

Faint mae’n ei gostio?

£18 am y 9 mis y mae’r gwasanaeth yn gweithredu.

 

Pam nad yw bellach yn wasanaeth drwy’r flwyddyn?

Mae gostyngiad sylweddol yn ystod misoedd y gaeaf yn y defnydd gan breswylwyr sy’n golygu fod y gwasanaeth yn cael ei danddefnyddio ac yn aneffeithiol. Mae pwysau parhaus ar gyllidebau’r cyngor yn golygu fod yn rhaid i ni naill ai gynyddu’r gost ar gyfer gwasanaeth blwyddyn lawn neu ddarparu gwasanaeth tymhorol ar yr un gost. Fe wnaeth cynghorwyr sir adolygu’r opsiynau a phleidleisio cynnig gwasanaeth gwastraff gardd tymhorol.

A fydd fy ngwastraff bwyd yn dal i gael ei gasglu ar yr un amser â fy ngwastraff gardd?

Na, mae’n rhaid cadw gwastraff gardd ar wahân gan y caiff ei anfon i’w gompostio mewn fferm leol yn y Fenni.

 

A allaf roi gwastraff bwyd yn fy mag gwastraff gardd?

Na, mae’n rhaid rhoi pob gwastraff bwyd cegin yn cynnwys croen llysiau yn eich blwch gwastraff bwyd a dim yn y bag gwastraff gardd. Caiff gwastraff gardd ei gompostio ar fferm lleol ac ni ddylai gynnwys unrhyw wastraff bwyd cegin.

 

Pam fod yn rhaid i mi dalu am gasglu gwastraff gardd?

Nid oes dyletswydd ddeddfwriaethol i gasglu gwastraff bwyd a dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 gall cynghorau godi tâl tuag at gostau casglu.

 

A yw’r Cyngor yn gwneud arian o werthu’r compost?

Na, dim ond ar gyfer casglu gwastraff gardd y caniateir i’r cyngor adennill costau. Mae’n rhaid i ni drin y costau gwaredu heb eu trosglwyddo i breswylwyr. Mae costau gwaredu yn fwy na £210,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

 

Beth yw’r ffordd orau o ddelio gyda fy ngwastraff gardd?

Lle bynnag sy’n bosibl, y ffordd orau i ddelio gyda gwastraff gardd yw compostio eich gwastraff gardd adref. Gellir prynu biniau compost cartref o ganolfan arddio neu siop DIY leol.

 

Beth arall fedraf ei wneud gyda fy ngwastraff gardd?

Gellir mynd â gwastraff gardd i’ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref leol.

 

A fydd casgliadau tymhorol yn golygu y bydd mwy o dipio anghyfreithlon?

Nid yw awdurdodau cyfagos sy’n darparu casgliad gwastraff gardd tymhorol wedi gweld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon.

Household Waste Recycling Centres

Beth sy’n digwydd gyda Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref?

Y cynnig yw cau pob safle am 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos.

Y cynnig yw cau Brynbuga ar 2 ddiwrnod, cau Llanfihangel Troddi am 2 ddiwrnod a chau Llan-ffwyst a Five Lanes am 1 diwrnod. Byddai’r safleoedd ar gau ar ganol yr wythnos a byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y safleoedd agosaf at ei gilydd ar agor pan mae’r llall ar gau e.e. ni fyddai Brynbuga a Llanfihangel Troddi yn cau ar yr un dyddiau.

A fydd Llanfihangel Troddi yn dal i gau ar gyfer symud sgipiau am 2 ddiwrnod, gan wneud y safle’n bwysicach byth?

Nid yw Llanfihangel Troddi yn safle delfrydol ac ychydig iawn o gyfle sydd i wella ei gynllun. Rydym wedi buddsoddi mewn gwell peiriannau ar gyfer rholio’r sgipiau felly gobeithio bydd hyn yn cyflymu’r broses. Rydym hefyd yn cynnig cyflwyno trwyddedau am ddim i holl breswylwyr Cyngor Sir Fynwy i ostwng gwastraff sy’n croesi’r ffin. Ar hyn o bryd mae 15% o’r bobl sy’n defnyddio’r safleoedd yn dod o’r tu allan i’r sir. Os mai dim ond preswylwyr sy’n defnyddio’r safleoedd, gobeithiwn y bydd llai o symudiadau sgip.

Rwy’n pryderu y bydd cau safleoedd am beth o’r amser yn cynyddu tipio anghyfreithlon.

Rydym yn deall eich pryderon ac nid ydym wedi cymryd y penderfyniad i’w cau yn ysgafn. Gwyddom fod siroedd cyfagos sydd wedi cau safleoedd heb adrodd cynnydd mewn tipio anghyfreithlon.

Bydd y safleoedd yn dal i fod ar agor o leiaf 50 awr yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd y tîm gwastraff yn monitro tipio anghyfreithlon ac yn defnyddio’r ddeddfwriaeth newydd sy’n caniatáu gosod hysbysiadau cosb sefydlog ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach. Byddwn yn defnyddio Hysbysiadau Cosb Sefydlog ac yn erlyn lle darganfyddir tipio anghyfreithlon.

Ar gyfer beth mae’r trwyddedau defnyddio safle?

Bydd y trwyddedau’n gostwng traffig gwastraff sy’n croesi’r ffin. Amcangyfrifir fod hyn tua 3000 tunnell fetrig o wastraff bob blwyddyn. Bydd y trwyddedau AM DDIM i bob cartref, gellir eu cadw yn y car a’u rhoi ar y dashfwrdd pan fyddwch yn mynd i mewn i’r safleoedd. Bydd y trwyddedau’n golygu y bydd yn rhwydd i staff y safleoedd adnabod preswylwyr Sir Fynwy a herio pawb arall.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn colli fy nhrwydded defnyddio safle?

Os collwch eich trwydded defnyddio safle, gallwch ddangos eich trwydded yrru tra byddwch yn gwneud cais am drwydded arall i ddefnyddio’r safleoedd.