Skip to Main Content

Yn wahanol i flynyddoedd cynt, bydd gwastraff ac ailgylchu yn cael eu casglu ar bob un diwrnod Gŵyl y Banc, ac eithrio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.   

Cyn hyn, byddai pob dim yn cael ei gasglu ddiwrnod ar ôl Gŵyl y Banc. Felly, rhowch eich gwastraff allan ar y diwrnod casglu arferol os gwelwch yn dda.


Pryd mae fy niwrnod casglu?

Ewch i LocalInfo i ganfod pryd y caiff eich gwastraff a'ch ailgylchu ei symud

Rhowch eich ailgylchu a gwastraff mas erbyn 7am.


Gallwch wirio eich diwrnodau caglu gwastraff nesaf drwy fynd i dudalen Gwybodaeth Leol..

Calendr casglu sbwriel bob bythefnos 2024

Gall canolfannau gwastraff cartrefi ac ailgylchu fod yn brysur o amgylch Gwyliau’r Banc. Mae gan bob safle ddyddiau agor wahanol, dilynwch y ddolen i wirio. Mae’n rhaid i chi fod wedi archebu i ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu. Mae’r holl Ganolfannau Ailgylchu ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.