Skip to Main Content
canolfan un blaned

Mae’r Ganolfan Un Blaned ar agor ac yn croesawai ysgolion a grwpiau cymunedol.

Mae’r Ganolfan Un Blaned yn safle addysgol gwych yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Llan-ffwyst. Mae’r ganolfan ar agor i bob ysgol a grŵp cymunedol. Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim ac maent fel arfer yn parhau am tua dwy awr.

Mae Sir Fynwy wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac mae’r Ganolfan Un Blaned yn lle gwych i ddysgu am sbwriel, ailgylchu, ailddefnyddio a phopeth amgylcheddol. I archebu ymweliad eich ysgol neu grŵp cymunedol, anfonwch e-bost at recyclingandwaste@monmouthshire.gov.uk
Ffôn: 01633 644644
Facebook: Recycling in Monmouthshire
Twitter: @MonCCRecycling

“Gwerth addysgol gwych ar garreg y drws! Byddaf yn bendant yn ei argymell i athrawon eraill” Mrs Box, Ysgol Gynradd Gatholig Y Forwyn Fair a Mihangel Sant


Lluniau o ymweliad Ysgol Gynradd Eglwys Llandeilo Bertholau i Ganolfan Un Blaned.