Mae 1 sedd wag gennym am Aelod Lleyg Annibynnol ar gyfer Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Os oes diddordeb neu brofiad gennych mewn llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu risg a’ch bod yn dymuno helpu sicrhau bod Cyngor Sir Fynwy yn cael ei lywodraethu yn effeithiol, efallai mai dyma’r rôl i chi!
Nid oes angen dealltwriaeth fanwl o lywodraeth leol ond mae disgwyl bod ymgeiswyr yn ymddiddori mewn materion sydd yn ymwneud gyda bywyd a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd pecyn sefydlu a hyfforddi llawn yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae rhagor o fanylion am y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghyd â chopïau o’r agendâu, cofnodion a recordiadau o’n cyfarfodydd diweddar ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy – Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit
A ydych chi yn:
- Gwrthrychol ac yn annibynnol eich barn
- Cefnogi egwoddyrion llywodraethiant da
- Meddwl yn strategol
- Yn medru ystyried y dystiolaeth a’n herio mewn modd parchus
Mae’r pwyllgor statudol yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen ar gyfer gwella Sir Fynwy. Pwrpas y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw darparu sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, amgylchedd rheoli mewnol, prosesau asesu perfformiad, delio gyda chwynion a hygrededd y prosesau adrodd ariannol a llywodraethiant. Drwy oruchwylio archwilio mewnol ac allanol, mae’n gwneud cyfraniad pwysig tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.
I ddysgu mwy:
Am sgwrs anffurfiol, plis cysylltwch gyda Andrew Blackmore, Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit andrewblackmore@monmouthshire.gov.uk neu Jan Furtek, Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro janfurtek@monmouthshire.gov.uk
Os oes gennych diddordeb, plis cwblhewch y ffurflen gais a’i danfon i janfurtek@monmouthshire.gov.uk