Skip to Main Content

Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

· A oes gennych ddiddordeb mewn safonau ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus?
· Ydych chi’n chwilfrydig, ac a allwch chi ystyried materion yn wrthrychol ac yn ddiduedd?
· Allwch chi bwyso a mesur tystiolaeth sy’n gwrthdaro a dod i gasgliad teg?
· A allwch chi weithio fel rhan o dîm a dangos sgiliau cyfathrebu da?
· Oes gennych chi barch at eraill a dealltwriaeth o faterion moesegol amrywiol?
· Allwch chi werthuso’n feirniadol a rhoi sylwadau ar adroddiadau ysgrifenedig?

Os gallwch ateb yn gadarnhaol i’r rhain, a hoffech chi ddod yn aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau’r Cyngor? Mae’n cynnwys 5 aelod annibynnol, 3 Cynghorydd Sirol a chynrychiolydd Cyngor Cymuned. Mae’r Pwyllgor Safonau yn cyflawni rôl hanfodol wrth gynnal y safonau moesegol uchaf ar lefel Cynghorau Sir a Chymuned. Mae ei swyddogaethau’n cynnwys cynghori’r Cyngor a’i aelodau wrth fabwysiadu, monitro, gweithredu, gorfodi ac adolygu codau ymddygiad lleol amrywiol a chanllawiau moesegol eraill.

Yn anffodus yn ôl y gyfraith, NID yw’r canlynol yn gallu bod yn aelod annibynnol:

· Cynghorydd neu Swyddog sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd (neu briod neu bartner sifil Cynghorydd neu Swyddog) Cyngor Sir Fynwy, unrhyw Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol arall, Awdurdod Tân, Awdurdod Parc Cenedlaethol, neu Gyngor Cymuned/Tref
· Cyn-Gynghorwyr neu Swyddogion Cyngor Sir Fynwy
· Cynghorwyr neu Swyddogion unrhyw Gyngor Sir neu Fwrdeistref Sirol, Awdurdod Tân neu Awdurdod Parc Cenedlaethol arall tan o leiaf flwyddyn ar ôl peidio â bod yn Gynghorydd/Swyddog yr Awdurdod hwnnw.

Mae’r Cyngor wedi cytuno ymhellach na ddylai aelodau annibynnol fod wedi ymwneud â’r Cyngor blaenorol yn sylweddol neu wedi bod yn ymwneud â’r Cyngor a allai beryglu eu didueddrwydd.

Penodir aelodau annibynnol am gyfnod o rhwng 4 a 6 blynedd a gellir eu penodi am un tymor olynol arall. Mae’r Pwyllgor Safonau yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, er y bydd angen i aelodau annibynnol fod yn hyblyg o ran argaeledd gan fod yn rhaid galw’r Pwyllgor weithiau am gyfarfodydd heb eu trefnu ar ychydig ddiwrnodau o rybudd. Gellir mynychu cyfarfodydd yn bersonol neu o bell (ar-lein).

O fis Mai 2023, bydd gan aelodau annibynnol hawl i ffi o £210 am 4 awr a throsodd a £105 am hyd at 4 awr a thaliadau teithio a chynhaliaeth fel y bo’n briodol. Bydd Cadeirydd y pwyllgor (a etholir yn flynyddol) yn derbyn ffi o £268 am 4 awr a throsodd a £134 am hyd at 4 awr. Mae lwfansau gofal a chymorth personol ar gael hefyd.

Am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â James Williams, Prif Swyddog y Gyfraith a Llywodraethu dros e-bost – jameswilliams@monmouthshire.gov.uk neu Gadeirydd y pwyllgor Richard Stow dros e-bost – richard@sunnybankvines.co.uk Gellir cael ffurflen gais oddi wrth: legal@monmouthshire.gov.uk NEU Gwasanaethau Cyfreithiol –
Recriwtio’r Pwyllgor Safonau
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir,
Y Rhadyr,
Brynbuga,
NP15 1GA

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 19eg Ebrill 2024