Skip to Main Content

Mae adroddiad blynyddol y cyfarwyddwr gwassnaethau cymdeithsol yn anelu i ddewud stori pa mor dda y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu yn Sir Fynwy a lle mae angen i ni wella.

Mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru gynhyrchu adroddiad i ddweud wrth eu dinasyddion sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn perfformio. Caiff yr adroddiadau hyn eu cefnogi gan lawer o dystiolaeth. Bydd yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych ar ein hadroddiad i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi darlun cywir ac onest.

Er y cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan y cyfarwyddwr, mae llawer o bobl yn cynnwys staff, defnyddwyr gwsanaeth, gofalwyr a swyddogion iechyd wedi cymryd rhan. Mae hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu’r hyn mae pobl yn feddwl am y gwaith a wnawn.

Os hoffech roi sylw ar yr adroddiad, neu gymryd mwy o ran drwy ein helpu i ysgrifennu adroddiad y flwyddyn nesaf, gallwch gysylltu â ni drwy improvement@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ac adroddiadau