Skip to Main Content

Y Diweddaraf

Newyddion Diweddaraf

  • Cyfarfu’r Pwyllgor Craffu Pobl ar 18fed Gorffennaf, lle trafododd yr aelodau adroddiad Practice Solutions a chlywed barn aelodau’r cyhoedd.
  • Cyfarfu’r Cabinet ar 26ain Gorffennaf i drafod adroddiad Practice Solutions a chlywed adborth gan y Pwyllgor Craffu Pobl. Penderfynodd y Cabinet i gymeradwyo’r 10 argymhelliad yn yr adroddiad yn nodi’r ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaeth Fy Niwrnod Fy Mywyd.
  • Trefnir gweithdai i gwrdd â phobl sy’n derbyn gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd a siarad ymhellach am weithredu’r cynlluniau ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd, gan gynnwys pa adeiladau a allai fod y ganolfan gartref orau.
  • Mwy o fanylion isod.

Beth yw Fy Niwrnod, Fy Mywyd

Mae Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn wasanaeth sy’n cefnogi oedolion sydd wedi cael diagnosis o anabledd dysgu i gael mynediad at gyfleoedd a gweithgareddau dydd fel rhan o gynllun gofal a chymorth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Darperir cyfleoedd drwy gefnogaeth 1 i 1 a thrwy weithgareddau grŵp, ac maent yn amrywio o gefnogaeth i gael mynediad at hyfforddiant a chyflogaeth, cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, chwaraeon a hamdden neu gymdeithasu a chael hwyl.

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Bu’n rhaid i Wasanaeth Fy Niwrnod, Fy Mywyd newid yn sylweddol yn ystod y pandemig ac oherwydd hyn gwnaethom ofyn i sefydliad annibynnol, Practice Solutions, gynnal adolygiad o’r gwasanaeth a gwblhawyd ddiwedd mis Mawrth. Gwnaethom rannu’r adroddiad gyda’r bobl a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r adolygiad ac yna rhannu’r adroddiad gyda’r cyhoedd ehangach i gasglu safbwyntiau pellach.  Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd yr amser i ddarllen yr adroddiad ac anfon adborth.

Mae Adroddiad Practice Solutions ar gael yma:

Fe wnaeth adroddiad Practice Solutions ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i’r bobl sy’n derbyn gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd a’u teuluoedd a sut maen nhw am weld y gwasanaeth yn datblygu. Rydym wedi defnyddio’r argymhellion o’r adroddiad adolygu Practice Solutions, y sylwadau a wnaed gan bobl sy’n ymwneud â’r gwasanaeth a’r cyhoedd yn ehangach i ddatblygu adroddiad ar gyfer Pwyllgor Craffu Pobl. Roedd yr adroddiad craffu yn cynnig gweledigaeth ar gyfer datblygu Gwasanaeth Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn y dyfodol ac roedd yn cynnwys cynllun gweithredu i ddisgrifio’r hyn y byddai angen i ni ei wneud i wneud i hynny ddigwydd, yn enwedig sut y byddai pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cymryd rhan ar hyd y ffordd.

Beth ddigwyddodd yn y Pwyllgor Craffu Pobl?

Cyfarfu’r Pwyllgor Craffu Pobl ar 18fed Gorffennaf. Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu ar ganfyddiadau Adolygiad Gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd a gynhaliwyd gan Practice Solutions a’r adborth o’r broses ymgynghori. Rôl y Pwyllgor Craffu oedd cynnig barn i’r cabinet a gwneud argymhellion i’r Cabinet. 

Clywodd y Pwyllgor gan bobl a oedd yn mynychu’r cyfarfod a dynnodd sylw at yr angen am wasanaethau a chymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu a phobl eraill sy’n agored i niwed. Roedd teimlad cryf y dylai Canolfan Ddydd Tudor Street ailagor gan y teimlwyd mai dyma’r unig adeilad a allai ddarparu’r math o gyfleusterau hygyrch a diogel yr oedd eu hangen ar bobl, a’r cymorth cywir yn benodol ar gyfer pobl agored i niwed.  

Codwyd pwyntiau allweddol gan Aelodau’r Pwyllgor gan gynnwys pryder am y dull sy’n cael ei gymryd i ddewis y ganolfan orau ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd a phwysigrwydd cydnabod anghenion gofalwyr. Teimlai’r aelodau y dylid cefnogi aelodau o’r cyhoedd sy’n agored i niwed.

Beth oedd yr argymhellion i’r Cabinet gan y Pwyllgor Craffu Pobl?

Cafwyd cefnogaeth eang gan y pwyllgor ar gyfer argymhellion yr adolygiad ac awydd cryf i weld y gwaith yn mynd rhagddo ar gyflymder. 

Gofynnodd y Pwyllgor i’r Aelod Cabinet ystyried y pwyntiau a’r materion a godwyd yn y Pwyllgor Craffu ar Bobl wrth wneud penderfyniadau pellach ar Wasanaeth Fy Niwrnod, Fy Mywyd.

Beth ddigwyddodd yn y Cabinet ar 26ain Gorffennaf?

Yng nghyfarfod y Cabinet, trafodwyd gwasanaeth Fy Niwrnod, Fy Mywyd. Rhoddodd y Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Pobl adborth gan y pwyllgor, ac roedd adroddiad ysgrifenedig yn crynhoi’r pwyntiau a’r materion a godwyd yn y pwyllgor ar gael i holl aelodau’r Cabinet. Yn dilyn nifer o gwestiynau, rhoddodd y Cabinet eu cymeradwyaeth unfrydol ar gyfer y 10 argymhelliad o’r adolygiad Practice Solutions a’r cynllun gweithredu.  Ymrwymodd y Cabinet i ddatblygu gwasanaethau cymorth dydd i bobl sydd ag anableddau dysgu a sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn ganolog i sut mae gwasanaethau’n cael eu datblygu. Gwnaed ymrwymiad bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn cael mynediad at gartref ac ystod lawn o gyfleoedd diwrnod ystyrlon.

Beth sydd nesaf? 

Bydd gweithredu’r newidiadau sydd eu hangen i ddatblygu gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd nawr yn cael eu datblygu. Un o’r camau cyntaf yw cwrdd â derbynwyr Fy Niwrnod, Fy Mywyd i siarad am y cynllun gweithredu. I helpu gyda hyn mae gweithdai wedi eu trefnu yn Nhrefynwy a’r Fenni.  Bydd y gweithdai yn cael eu defnyddio i siarad mwy am ba adeiladau allai fod y seiliau gorau ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd. Mae’r gweithdai hyn dim ond ar gyfer pobl sy’n derbyn gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd, fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn glir. Ochr yn ochr â hyn bydd y gwasanaeth yn gwneud newidiadau yn y ffordd y caiff y gweithlu ei ddatblygu; pa gymorth sydd ei angen ar bobl a sut i sicrhau ystod o weithgareddau cydgysylltiedig. 

Beth am y ganolfan ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd

Yr adeiladau a gyflwynwyd fel canolfan bosibl ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn y Fenni yw Tudor Street, Theatr Melville a Chanolfan Gymunedol y Fenni. Yr adeiladau a gyflwynwyd fel canolfan posibl ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn Nhrefynwy yw Canolfan Bridges, Canolfan Dysgu i Deuluoedd Overmonow, a Chyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Monnow Vale. Rydym nawr eisiau clywed mwy gan y bobl sy’n defnyddio Fy Niwrnod, Fy Mywyd am eu dewisiadau a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw am ganolfan. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y gweithdai.  Byddwn yn ymchwilio ymhellach i’r hyn y byddai pob adeilad yn ei gostio a pha mor ymarferol ydynt.  Rydym am wneud hyn cyn gynted â phosibl, ond gan sicrhau o hyd bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i’r Cabinet i’w helpu i wneud penderfyniadau am y canolfannau gorau ar gyfer Fy Niwrnod, Fy Mywyd i’r dyfodol.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfamser?

Bydd gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn parhau fel y maent ar hyn o bryd, gyda phobl yn cael eu cefnogi allan yn y gymuned, yn ymuno mewn gwahanol grwpiau a gweithgareddau; gwneud pethau maen nhw’n eu mwynhau.

Am wybod mwy?

Os ydych am wybod mwy am yr adolygiad, y camau nesaf neu sut i gymryd rhan, anfonwch unrhyw gwestiynau at communications@monmouthshire.gov.uk

Colour Preferences