Skip to Main Content

Bydd y Prosiect yn adnewyddu ac yn ailfodelu ‘Hyb Cymunedol’ y dref i greu gofod pwrpasol ar gyfer ‘cydweithredu’ a mentergarwch.

Bydd y defnydd presennol fel llyfrgell a chyfleuster cymunedol yn parhau, ond bydd y prosiect yn caniatáu i’r adeilad ddarparu cymorth hyblyg a fforddiadwy i fusnesau bach a gweithwyr unigol.

Mae natur newidiol patrymau gwaith, o lety swyddfa traddodiadol i amgylcheddau gwaith mwy hyblyg, yn gyrru galw cynyddol am wasanaeth a rennir, cydweithio, llety

Mae’r cynnydd hwn mewn poblogrwydd yn adlewyrchu datblygiadau mewn cyfathrebu a thechnoleg a daw ar adeg pan fo sector digidol a chreadigol y DU yn tyfu’n gyflym – gan arwain at fwy o alw am leoedd.

Tynnwyd sylw at y ffaith mai De Cymru yw’r un o’r clystyrau technoleg sy’n tyfu cyflymaf yn y DU, gyda Sir Fynwy yn cael ei henwi fel y brif sir wledig ddigidol ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd.

Bydd lle cydweithio, sy’n agos at ganol tref allweddol, yn rhoi cyfle i fusnesau bach i gydweithio, rhwydweithio ac ymgymryd â’u busnes – gan ddarparu man cychwyn ar gyfer defnydd swyddfa arall yn y dref a gerllaw yn y dyfodol.

Mae’r cynnig hwn yn cynnwys:

  • Adnewyddu ffasâd allanol yr adeilad gyda deunyddiau o ansawdd uchel – gwydr pren a charreg naturiol. Gan gynnwys cael gwared ar baneli brics i wella golau naturiol
  • Creu mynedfa newydd i’r Hyb Cymunedol o ochr canol y dref
  • Ailfodelu’r cynllun mewnol ac ystafelloedd storio nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol er mwyn darparu ardaloedd Mentergarwch penodol o fewn yr Hyb Cymunedol
  • Gwell hygyrchedd i’r adeilad, yn ystod y dydd a gyda’r nos drwy ddefnyddio systemau rheoli mynediad ar gyfer defnyddwyr cofrestredig Mentergarwch

Statws y Prosiect:

  • Tach 18 – ‘Cymeradwyaeth mewn egwyddor’ y cysyniad gan Lywodraeth Cymru
  • Mai 19 – Derbyn y caniatâd cynllunio
  • Awst 19 – Cyhoeddi’r tendrau
  • Medi 19 – Cais llawn i Lywodraeth Cymru i gychwyn y prosiect i’w gyflwyno ar ôl i’r tendr ddod i ben. Yn amodol ar gymeradwyaeth, mae gwaith wedi’i raglennu i ddechrau Medi/Hydref 19 a’i gwblhau erbyn Rhagfyr 19.