Skip to Main Content

Heddiw (14 Mehefin 2022) mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghas-gwent, gan ganolbwyntio ar Hyb Trafnidiaeth.

Mae hyn yn dilyn ein ymgynghoriad blaenorol ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent yn 2020. Ers hynny, rydym wedi edrych ar a gwrando ar yr adborth a gafwyd gennych ac wedi datblygu rhai cynigion ymhellach fel rhan o ‘Hyb Trafnidiaeth Cas-gwent’.

Gellir rhannu’r Hyb Trafnidiaeth yn nifer o wahanol elfennau ac mae’n ymchwilio dulliau teithio tebyg i’r rhwydwaith bysiau, cludiant sy’n ymateb i alw tebyg i dacsis, seilwaith cerbydau trydan a chyfleusterau parcio a theithio.

Rydym wedi datblygu amgylchedd arddangosfa rithiol mewn partneriaeth gyda’n ymgynghorwyr Arup. Yn debyg i’n ymgynghoriad yn 2020, ni fyddwn yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, ond mae tîm y prosiect ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg am bedair wythnos a gofynnwn i chi am eich adborth erbyn 11.59pm ar 12 Gorffennaf 2022. Gallwch roi adborth drwy:

  • Llenwi ein harolwg ar-lein sydd ar gael drwy’r arddangosfa rithiol
  • Gofyn am gopi print o’r arolwg i’w lenwi a’i bostio atom yn defnyddio ein cyfeiriad rhadbost (manylion islaw)
  • Ysgrifennu atom Freepost CHEPSTOW TRANSPORT STUDY

Gofynnwn i chi roi amser i ymweld â’n harddangosfa rithiol a rhoi eich adborth ar ein cynigion. Mae eich adborth yn hanfodol wrth ddatblygu dyfodol cludiant cynaliadwy yng Nghas-gwent a’r cylch.

Gallwch gael mynediad i ystafell yr ymgynghoriad drwy ddolen chepstowtransport.virtual-engage.com

Os dymunwch siarad gyda thîm y prosiect, anfonwch e-bost atom i chepstowtransportstudy@arup.com neu ein ffonio ar 0117 240 1529 os gwelwch yn dda.