Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Nid oes angen i rieni/gofalwyr mwyach roi dogfennau cefnogi i ddilysu eu hawl i fudd-dal os ydynt eisoes yn derbyn budd-dal. Y cyfan sydd angen i chi fel rhiant/gofalwr ei wneud yw llenwi a dychwelyd ffurflen gais am brydau ysgol am ddim i’n galluogi i ddilysu eich hawl am fudd-dal. DS Gofynnir i chi roi tystiolaeth o’ch enillion gyda’ch cais os nad oes gennych hawl i fudd-dal.
Bydd gan blant sy’n derbyn gofal yn Sir Fynwy hawl i bryd ysgol am ddim unwaith y cafwyd cadarnhad gan Gwasanaethau Cymdeithasol. Gofynnir i chi beidio cysylltu â’r Cyd-wasanaeth Budd-dal i wneud ymholiadau gan nad ydynt yn gyfrifol am asesu’r hawliad.
Cyfrifoldeb y rhiant/gofalwr yw gwneud cais am brydau ysgol am ddim bob blwyddyn academaidd. Ni all ysgolion roi pryd am ddim i’ch plentyn nes y cafodd cais ei awdurdodi gan y Cyd-wasanaeth Budd-daliadau yn Nhorfaen. Gellir cysylltu â’r Cyd-wasanaeth Budd-daliadau ar. 01495 742377 neu benefits@torfaen.gov.uk
monmouthshire.gov.uk/cy/treth-y-cyngor-trethi-busnes
Pas cyfleusterau hamdden am ddim
Bydd y disgyblion hynny a gafodd eu hasesu a’u hawdurdodi am brydau ysgol am ddim hefyd yn gymwys i ddefnyddio pyllau nofio a rhai gweithgareddau hamdden eraill am ddim o fewn Canolfannau Hamdden Sir Fynwy. Caiff eich manylion eu rhannu gyda’r tîm Gwasanaethau Hamdden a fydd yn awtomatig yn gweithredu pas Hamdden Am Ddim yn dilyn cymeradwyo hawl eich plentyn i brydau ysgol am ddim. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â 01633 644791.
Grant Hanfodion Ysgolion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno grant newydd i gynorthwyo teuluoedd ar incwm isel ar gyfer prynu: Gwisg ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau; Cit chwaraeon ysgol yn cynnwys esgidiau; Gwisg ar gyfer gweithgareddau ymgyfoethogi, yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i sgowtiaid, geidiau, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns; Offer e.e. bagiau ysgol a deunyddiau ysgrifennu; Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau tebyg i ddylunio thechnoleg; ac Offer ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol tebyg i ddysgu awyr agored e.e. dillad sy’n dal dŵr. Rhai pryniannau eraill gan gynnwys mewn perthynas â gweithgareddau cyfoethogi, offer arbenigol ac offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau.
Mae’r cyllid ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
O’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 ym mis Medi 2026, darperir cyllid o £125 ar gyfer pob disgybl cymwys o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 a Blwyddyn 8 i flwyddyn 11. Mae’r cyllid yn £200 ar gyfer y disgyblion hynny ym Mlwyddyn 7. Caiff hawl ei asesu’n awtomatig wrth ochr eich cais am bryd ysgol am ddim. Os byddwch yn dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn ariannol neu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’r Tîm Budd-daliadau ar 01495 742037 neu 742377.
Llywodraethwyr Ysgol
Mae gan bob ysgol Gorff Llywodraethol, sy’n chwarae rôl bwysig ym mywyd yr ysgol. Mae’r Corff Llywodraethol yn atebol am arwain yr ysgol ac am wella safonau plant a phobl ifanc. Yn benodol, mae pob corff llywodraethol yn gyfrifol am gyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol, gosod targedau, cyllid yr ysgol, penodi staff ac yn y blaen.
Mae’r Cyrff Llywodraethol yn cynnwys pobl leol a byddant yn cynnwys rhieni, penodedigion yr Awdurdod Lleol, athrawon, staff cefnogi ysgol, penaethiaid, ac efallai gynrychiolwyr o’r gymuned fusnes a’r eglwys leol. Bydd nifer y llywodraethwyr ac amlder y cyfarfodydd yn dibynnu ar fath a maint yr ysgol.
Mae modd cael manylion am sut i ddod yn llywodraethwr ysgol gan Dîm Cefnogi Llywodraethwyr y GCA ar 01443 864963, Opsiwn 2.
Iechyd A Diogelwch
Yn ogystal â pholisïau Iechyd a Diogelwch y Cyngor Sir a’r Awdurdod Lleol, mae gan bob ysgol Bolisi Iechyd a Diogelwch unigol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol yr ysgol.
Mae gofyn i Awdurdodau Addysg Lleol a Chyrff Llywodraethol gydymffurfio â gofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a bydd ganddynt naill ai is-bwyllgor Iechyd a Diogelwch neu lywodraethwr enwebedig sy’n gyfrifol am faterion iechyd a diogelwch.
Mae gwybodaeth bellach am faterion iechyd a diogelwch ar gael gan y Tîm Gwasanaethau Cefnogi ar 01443 864963 01443 864963 neu yma