Skip to Main Content

DISGRIFIAD CWRS

Mae’r gallu i ddefnyddio Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer bron unrhyw yrfa . Os ydych yn oedolyn sydd eisiau gwella’ch sgiliau Saesneg, neu os ydych chi’n defnyddio Saesneg ar gyfer gwaith ac yn astudio cwrs ESOL ( Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd eraill) gall hwn eich helpu i gyflawni’ch nod.

Gall y cwrs hwn eich helpu chi i:

  • siarad â meddygon ac athrawon
  • ddeall cyfreithiau ac arferion y DU
  • wneud cwrs a chael cymhwyster
  • helpu eich plentyn gyda gwaith cartref
  • basio prawf Bywyd yn y DU a dod yn ddinesydd Prydeinig

Mae cyrsiau ESOL yn cwmpasu:

  • siarad a gwrando
  • darllen ac ysgrifennu
  • geirfa
  • atalnodi a gramadeg

Mae cyrsiau ar wahanol lefelau er mwyn i chi allu cychwyn ar y lefel gywir ar eich cyfer chi.

Mae cwrs ESOL wedi’i gynllunio i’ch helpu i ennill hyder a sgiliau iaith sydd eu hangen i gael mynediad at addysg neu gynnydd arall pellach yn eich gyrfa ddewisol.

CANLYNIADAU:

Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod yn gallu siarad yn fwy clir i gael eich clywed a’ch deall mewn sgyrsiau syml, yn gwneud ceisiadau a gofyn cwestiynau mewn sefyllfaoedd bob dydd, gwneud datganiadau a disgrifiadau byr yn glir, gofyn cwestiynau er mwyn deall ystyr, dilyn prif bwyntiau trafodaethau a chyfrannu’n briodol. Byddwch yn gallu darllen, ysgrifennu a deall cyd-destunau byr ar bynciau cyfarwydd, darllen a chael gwybodaeth o ddogfennau byr, ffynonellau cyfarwydd, arwyddion a symbolau.

Anfonech e-bost at communityed@monmouthshire.gov.uk i gofrestru eich diddordeb.