Skip to Main Content

Titwor: Bernadette Chapman

DISGRIFIAD:

  • Yn ystod o cwrs 10 wythnos yma bydd myfyrwyr yn rhoi sylw i’r dilynol:
  • Blodau’r gwanwyn:
  • Freesia, blodau ceirios, mimosa a chennin Pedr
  • Sgiliau crefft siwgr:
  • Stensilio a llythrennu
  • Os oes amser, technegau eisin brenhinol

Caiff myfyrwyr eu hannog i ymarfer y sgiliau hyn yn eu hamser eu hunain.

Bob wythnos dywedir wrth y myfyrwyr beth i ddod ag ef yr wythnos ddilynol.

CANLYNIADAU:

Bydd myfyrwyr yn gadael y cwrs gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wneud blodau gwanwyn a thechnegau crefft siwgr.

UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:

Torrwyr ar gyfer blodau – tiwtor i hysbysu

Bwrdd teisennau/dymi i weithio wrth wneud sgiliau crefft siwgr.

Codir ffi o £2 ar gyfer pob myfyriwr bob wythnos am y pâst siwgr, gwifau a thap

Caiff yr holl offer arall ei gyflenwi gan yr Hyb.

Tiwtor: Bernadette Chapman

Blodeuwr Siwgr ydw i sy’n dwli ar gelf Crefft Siwgr a Blodeuwriaeth Porslen Oer.

Dechreuodd fy niddordeb am Grefft Siwgr dros 25 mlynedd yn ôl pan es i i Goleg Sir Gaint ym Maidstone, lle hyfforddais i ym mhob agwedd o Grefft Siwgr.

Galluogodd yr hyfforddiant yma i mi greu tusw priodas fy hun wedi’i greu yn gyfan gwbl allan o siwgr.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi mynychu nifer o gyrsiau yn Ysgol Ryngwladol Fawreddog Cegin Squires yn Farnham yn Surrey.  Cefais fy hyfforddi gan diwtoriaid sy’n enwog ar draws y byd gan gynnwys Alan Dunn, Paddi Clark, Ceri D.D.  Griffiths a Mark Tilling, ac enillais dair Tystysgrif Feistr yn sgil y cyrsiau hyn.  Mae gen i Ddiploma Proffesiynol o Ysgol PME am Addurno Cacennau a Chelf Felysion Knightsbridge.

Rydw i hefyd yn aelod o Ild Crefft Siwgr Prydain.

Rydw i bob amser yn awyddus i basio fy sgiliau a phrofiad ymlaen i bobl o’r un anian, sydd â diddordeb mewn dysgu am Grefft Siwgr a chyfrwng Porslen Oer.

Dwi wrth fy modd pan mae pobl eraill yn cyflawni beth maent yn meddwl sydd y tu hwnt i’w gallu.