Skip to Main Content

 Tiwtor: Peter Hamiltion

DISGRIFIAD O’R CWRS:

 Dysgu a mwynhau Sbaeneg heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r iaith mewn awyrgylch ystafell ddosbarth cyfeillgar ac aeddfed.

  • Dechrau gyda phethau sylfaenol megis synau llafariaid, cyfarchion a dyddiau’r wythnos, misoedd a thymhorau’r flwyddyn, lliwiau, gwledydd, rhifau ac aelodau teulu.
  • Deall rhaniad enwau gwrywaidd a benywaidd.
  • Cyfuno ansoddeiriau gydag enwau.
  • Symud ymlaen i ymadroddion dydd i ddydd a defnyddio berfau syml.
  • Cyfranogiad grŵp a phartneru aelodau eraill o’r dosbarth i greu proffiliau personol, atgofion gwyliau, siopa a thripiau eraill.
  • Astudio a defnyddio grwpiau geirfa e.e. mathau o adeiladau cyhoeddus mewn tref arferol, mathau o fwyd a diod, eitemau cartref.
  • Peth defnydd o ddulliau uwch o ferfau, e.e. amser gorffennol a dyfodol.
  • Canolbwyntio ar ynganiad cywir.
  • Gwrando ar ganeuon yn Sbaeneg ac astudio geiriau.
  • Gwaith cartref ysgafn ac adolygiad rheolaidd ar ddeunydd a astudiwyd eisoes yn cynnwys cwisiau ysgafn.
  • Cwestiynau ac atebion ar ddiwedd pob sesiwn.

HANFODOL:

Dim ond dymuniad a pharodrwydd i ddysgu iaith dramor. Gall unrhyw un gyda pheth profiad o iaith glasurol neu fodern, yn arbennig Ffrangeg, Portiwgaleg neu Eidaleg gall mantais. Mae rhai myfyrwyr yn gyfarwydd ag ap Duolingo y medrir ei lwytho am ddim ar ffôn symudol a’i ddefnyddio i ymarfer cyn ac yn ystod y cwrs.

DEILLIANNAU:

Gwybodaeth sylfaenol mewn Sbaeneg gyda phosibilrwydd mynd ag astudiaethau i lefel arall a/neu ddefnyddio’r sgiliau newydd wrth ymweld â Sbaen neu America Ladin. Medrai’r cwrs hefyd annog mwy o gywreinrwydd am hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth y byd Sbaeneg.

UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:

Nid oes dim yn hollol hanfodol ond argymhellir geiriadur da. Mae’r Collins Concise Spanish Dictionary hefyd yn dda iawn. Hefyd mae cwrs BBC, Talk Spanish Complete, ar gael mewn pecyn llyfr a CD (ar gael o Amazon) a gellir defnyddio peth o’r cynnwys o bryd i’w gilydd yn ystod y cwrs.

Tiwtor: Peter Hamilton

Rwyf wedi bod yn addysgu mewn Dysgu Cymunedol am bron 2 mlynedd, ar ôl gyrfa dros 40 mlynedd mewn yswiriant, gan arbenigo mewn Peirianneg ac Adeiladu. Treuliais lawer o amser yn delio gyda phrosiectau adeiladu yn America Ladin gan fyw yn Venezuela am gyfnod byr. Cefais fy magu ym Manceinion ond treuliais dros 30 mlynedd yn gweithio yn Llundain  yn ogystal ag yn Venezuela a Gwlad Belg. Rwyf bellach yn awr yn byw yn ymyl Tryleg, ar ôl gadael Surrey dros ddwy flynedd yn ôl am dawelwch cefn gwlad Cymru.

Ar ôl cwblhau 3 cwrs Sbaeneg i Ddechreuwyr, rwyf wedi datblygu’r hyder a dychymyg i wneud fy nosbarthiadau yn ddiddorol a hwyl.

Dysgais Sbaeneg yn ystod fy ngyrfa lle’r oeddwn yn aml yn cyfarfod pobl o America Ladin neu’n astudio dogfennau Sbaeneg. Roedd hefyd yn helpu fy mod wedi astudio Lladin a Ffrangeg yn yr ysgol.

Rwy’n mwynhau addysgu fel her ffres gyda’r cyfle i ddarganfod technegau ymarferol o wneud patrymau cyson yn yr iaith. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gadw fy Sbaeneg fy hunan rhag mynd yn rhydlyd.

Rwyf wrthi’n dilyn cwrs lle byddaf yn cael y sgiliau i addysgu ieithoedd tramor i ddysgwyr gyda dyslecsia.

Rwyf hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth gwledig, gwerin, blŵs ac enaid ac mae’r dosbarthiadau’n cynnwys ychydig o gerddoriaeth Sbaeneg.