TIWTOR: Erin Taylor
DISGRIFIAD O’R CWRS
Dysgu crochet neu adeiladu ar y sgiliau sydd gennych eisoes. Bydd y dosbarth hamddenol hwn yn eich helpu i ennill hyder a dysgu sgiliau newydd ymysg crefftwyr eraill o wahanol allu.
Bydd help ar gael i’ch llywio drwy batrwm anodd neu eich ysbrydoli i weithio ar eich cynllun eich hun.
Hwyliog a chyfeillgar, mae’r dosbarth hwn yn dda ar gyfer pobl o wahanol alluoedd
HANFODOL:
Dim
DEILLIANNAU:
Dysgu sgil newydd a thyfu mewn hyder
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Bachau crochet o wahanol feintiau ac edafedd. Gellir eu prynu gan y tiwtor ar wahanol gostau yn cychwyn ar £2.50.
TIWTOR: Erin Taylor
Rwyf wedi bod yn gwneud crefft ers i mi fod yn ifanc, diolch i’m tad a oedd yn dysgu gweithdy modelu ac sydd hefyd yn grëwr awyddus o facramé. Dysgodd fy nwy mam-gu gwnïo, crosio a brodwaith i mi, ac fe ysgogwyd y dylanwadau hyn gariad ynof fi tuag at bopeth sydd wedi’i gwneud â llaw.
Dwi’n dwli ar wnïo ac rwyf wedi bod yn creu eitemau o ddillad i fi, i’r teulu ac i ffrindiau ers nifer o flynyddoedd gan gynnwys gwisg ffansi, o Cleopatra i Tinkerbell, dillad baban a’m gwisg priodas fy hun.
Mae gwaith glain a weiren yn apelio i’m natur wyddonol a dwi’n dwli cynllunio darnau cymhleth am achlysuron arbennig, tra bod crefftau papur yn apelio i’m hochr ddigymell lle gall y dyluniad llifo’n fwy rhydd.
Rwyf wedi dysgu dosbarthiadau o amryw feintiau ac oedrannau, o ddechreuwyr pur i grefftwyr profiadol sy’n dymuno dysgu technegau newydd.