Rydym yn rheoli dau safle rhandir yn Sir Fynwy:
- Cas-gwent (Gwy Isaf)
- Lleoliad: Heol Strongbow, Bulwark
- Trefynwy (Canol Sir Fynwy)
- Lleoliad Cae Mileniwm, Chippenham
Ynghyd â’r dau safle a redwn ni, mae hefyd nifer o safleoedd a gaiff eu rheoli gan gynghorau tref a chymuned
I wneud cais am randir, llenwch y ffurflen gais a atodir neu gysylltu â’ch hyb cymunedol lleol.
Sut i gychwyn eich rhandir eich hun
Treuliwch beth amser yn cynllunio cyn cychwyn arni. Meddyliwch faint o arian sydd gennych i’w wario a faint o amser sydd gennych i’w weithio ar eich rhandir.
Mae angen llawer iawn o ymrwymiad i’ch rhandir yn y camau cyntaf i glirio ac wedyn drin eich llain, yn dibynnu ar y maint.
Gall y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol gynnig cyngor ar gynllunio eich rhandir . Mae mwy o arweiniad am gynllunio’r rhandir neu’r llain llysiau.