Skip to Main Content

Mae Tîm Masnachol Iechyd yr Amgylchedd yn gyfrifol am wirio fod gweithredwyr busnesau bwyd yn deall ac yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth diogelwch bwyd a safonau bwyd mewn dros 300 safle.

Mae’r Tîm Masnachol:

  • yn cynnal archwiliadau diogelwch bwyd rheolaidd mewn busnesau bwyd lleol ac ymweld ag arlwywyr, gan helpu busnesau i gydymffurfio gyda deddfwriaeth gyfredol diogelwch bwyd
  • cynnal archwiliadau safonau bwyd rheolaidd mewn manwerthwyr lleol a chynhyrchwyr bwyd, gan eu helpu i gydymffurfio gyda deddfwriaeth gyfredol safonau bwyd ar gyfer labelu ac ati
  • cynnig cyngor ymarferol a chyrsiau addysg i alluogi busnesau bwyd i weithredu’n ddiogel
  • ymchwilio pob cwyn yn gysylltiedig â bwyd, safleoedd bwyd ac arferion anniogel a chymryd camau gweithredu priodol fel bo angen
  • samplo bwyd a dwr yn rheolaidd
  • cynnal gwiriadau ar fwyd wedi’i fewnforio
  • ymateb i rybuddion bwyd
  • archwilio cynhyrchwyr bwyd lleol yn rheolaidd
  • gweithredu cynllun Gwobr Bwyd ar gyfer busnesau
  • cyflenwi ystod eang o daflenni gwybodaeth i helpu busnesau i gydymffurfio gyda’r gyfraith
  • cofrestru busnesau bwyd sy’n gweithredu yn Sir Fynwy

Mae gwybodaeth ar gael ar sut y bwriadwn ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Dyma’r polisi sy’n llywio sut y byddwn yn gweithredu diogelwch bwyd a hylendid bwyd. Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd os gwelwch yn dda os hoffech gael gwybodaeth yn y cyfamser ar y polisi gorfodaeth.