Skip to Main Content

Glaswelltir deniadol yn ymyl Afon Wysg yw hwn gyda chae chwaraeon, maes chwarae i blant a meinciau picnic. Mae wedi’i leoli yng nghanol Brynbuga wrth ymyl Afon Wysg. Mae coed poplys mawr yn dominyddu pen gogleddol y safle ac yn cynnig cysgod yn yr haf. Mae maes parcio a thoiledau.

Mae paneli gwybodaeth ar y safle yn disgrifio taith gylchol o gyfres “Y Ffordd i Ffitrwydd”, sy’n cynnwys y safle ac yn croesi’r afon i gynnwys rhannau o dref Brynbuga. Mae’r safle hefyd yn fan cychwyn da i gerdded rhan o Lwybr Dyffryn Wysg.

Mae’r safle wedi’i leoli ar yr A472 o Frynbuga i’r Fenni, ychydig cyn i chi adael Brynbuga (Cyfeirnod Grid SO 373 011). Mae bysiau yn pasio’r safle a/neu’r Bont Wysg gerllaw. Cysylltwch â Traveline am ragor o fanylion trwy ffonio 0871 200 22 33.