Roedd busnesau o Sir Fynwy ymhlith y rhai a gydnabuwyd yn seremoni Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent 2026, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Parkway yng Nghwmbrân neithiwr.
Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2023, yn dathlu menter, arloesi a llwyddiant busnesau ar draws Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent.
Roedd Cyngor Sir Fynwy yn falch o gefnogi’r digwyddiad ac o noddi’r Wobr Entrepreneur. Cyflwynodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths, y wobr i Louis Lattuca o gwmni Lattuca Invest, sydd wedi’i leoli ym Mlaenau Gwent.
Yn y cyfamser, cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, wobr Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn i Monmouth’s Milking Solutions Ltd..
Daeth y digwyddiad â busnesau o bob rhan o’r tair ardal awdurdod lleol ynghyd, gan gydnabod yr entrepreneuriaid, y cyflogwyr a’r sefydliadau sy’n parhau i yrru twf economaidd, creu swyddi a chryfhau cymunedau lleol.
Dyma rai o’r enillwyr o Sir Fynwy:
- Gwobr Busnes Gwledig: Goose & Cuckoo Inn, Llanofer.
- Gwobr Arloesi a Thechnoleg: Afon Technology, Castlegate, Cil-y-coed.
- Gwobr Busnes Mânwerthu: Hive Mind Mead & Brew Co, Castlegate, Cil-y-coed.
- Gwobr Busnes Gwyrdd: SNOAP, Trefynwy, a gafodd wobr am y drydedd flwyddyn yn olynol.
- Gwobr Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol: XCOM Service, Sir Fynwy.
- Gwobr Busnes Twristiaeth a Lletygarwch: Chepstow Racing & Events.
Ar gyfer y gwobrau eleni roedd busnesau o Sir Fynwy ar y rhestr fer ar draws amrywiaeth o gategorïau, gan arddangos cryfder, gwydnwch ac uchelgais cymuned fusnes y sir. Roeddent yn amrywiol dros ben, gan gynnwys y cwmni cyfreithiol lleol, uchel i barch, Gwyn James, Monnow Valley Studios yn Nhrefynwy, a Craptical Classics, sy’n adfer hen geir o’r oes a fu ac yn cynnig cyfle i bobl eu hennill.
Meddai’r Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n wych gweld busnesau o Sir Fynwy yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â’u cymheiriaid o Dorfaen a Blaenau Gwent. Mae ein busnesau lleol wrth galon ein cymunedau, ac yn creu cyfleoedd am swyddi, yn gyrru arloesi ac yn cyfrannu’n sylweddol at ffyniant y rhanbarth. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a’r enillwyr. Mae eu llwyddiant yn dyst i’r dalent, y dyfalbarhad a’r ysbryd entrepreneuraidd sy’n bodoli ar draws ein hardal.”
Meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae’r Wobr Entrepreneur yn dathlu unigolion sydd wedi dangos gweledigaeth, dyfalbarhad ac arweinyddiaeth wrth adeiladu busnesau llwyddiannus. Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gefnogi’r gwobrau hyn ac yn cydnabod y cyfraniad rhagorol y mae busnesau’n ei wneud i’n heconomi a’n cymunedau. Roedd yn fraint cyflwyno’r wobr i Lattuca Invest ac i ddathlu cyflawniadau cymaint o fusnesau ysbrydoledig o bob rhan o’r rhanbarth.”
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo o hyd i gefnogi busnesau o bob maint trwy Busnes Sir Fynwy. Mae’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i greu’r amodau ar gyfer twf economaidd cynaliadwy a buddsoddiad parhaus mewn cymunedau lleol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Busnes Sir Fynwy ar www.monmouthshire.gov.uk/cy/sir-fynwy-busnes/
Am restr lawn o’r busnesau sydd ar y rhestr fer ewch i https://tmbgbizawards.com/
