Rydym yn cydnabod bod y broses adfer yn parhau i drigolion yn dilyn llifogydd dalgylch Afon Mynwy yn dilyn Storm Claudia.
Mae’n ddrwg gennym fod rhai trigolion yr effeithiwyd arnynt wedi derbyn biliau Treth y Cyngor yn ddiweddar heb esboniad i gyd-fynd â nhw. Rydym yn deall y gallai hyn fod wedi ychwanegu at eu pryderon ar adeg sydd eisoes yn anodd, ac rydym yn ymddiheuro am y pryder ychwanegol a achoswyd.
Rydym yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trigolion hynny a byddwn yn ystyried unrhyw eithriadau, rhyddhad neu gymorth arall sydd ar gael ar sail amgylchiadau unigol.