Skip to Main Content

Mae gofalwr maeth yn Sir Fynwy wedi derbyn Gwobr Cyflawniad i Ofalwyr Newydd yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu 2026, a drefnir gan y Rhwydwaith Maethu.

Gan ei bod hi ei hun wedi cael profiad o dderbyn gofal, dyhead Carys erioed oedd dod yn ofalwr maeth. Ar ôl credu i ddechrau y byddai’n rhaid iddi aros nes ei bod yn hŷn, cysylltodd â’r tîm maethu a chafodd ei chymeradwyo ym mis Rhagfyr 2024.

Ers hynny, mae hi wedi croesawu plentyn ifanc i’w theulu, ac mae’n dweud bod gwylio’r plentyn yn tyfu, yn datblygu ac yn meithrin perthynas gadarnhaol â’i phlentyn biolegol ei hun, wedi sicrhau bod maethu yn brofiad hynod fuddiol.

Wrth sôn am ei gwobr, dywedodd Carys: “Cefais sioc fawr pan glywais fy mod wedi cael fy enwebu am wobr, heb sôn am ei hennill. Mae’n anrhydedd fawr i mi ac rwyf yn hynod falch ohonof fy hun.”

Mae’r wên ar wyneb yr un bach yn ddigon i wneud i mi deimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth, felly mae’r wobr hon o ddifri yn eisin ar y gacen.”

Mae hi hefyd wedi tynnu sylw at y gefnogaeth a gafodd gan ei gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a’i chyd-ofalwyr maeth. Mae Carys bellach yn defnyddio ei phrofiad ei hun i gefnogi gofalwyr newydd eraill sy’n dechrau ar eu taith maethu.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae’r wobr hon yn cydnabod y gwahaniaeth gwirioneddol y mae Carys yn ei wneud i fywyd plentyn. Mae ei stori hefyd yn dangos pa mor gefnogol yw’r gymuned maethu sydd gennym. Mae’r gofalwyr a’n tîm yno i gefnogi ei gilydd.”

Dysgwch fwy am faethu yn Sir Fynwy ar https://sirfynwy.maethucymru.llyw.cymru/